Skip to main content

Sgiliau digidol ar gyfer busnes Lefel 2 - Dyfarniad

GCS Training
Lefel 2
AGORED
Llys Jiwbilî
Un mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Nod y cymhwyster hwn yw uwchsgilio staff sy’n gweithio mewn rolau gweinyddol a rolau swyddfa eraill. Mae’r dyfarniad yn cynnig amrywiaeth o unedau y gall y dysgwr eu hastudio i fodloni eu gofynion sefydliadol a gofynion eu rôl swydd. 

Mae sgiliau digidol ar gyfer busnes yn addas i’r rhai mewn rolau fel gweinyddwyr cymorth busnes, cynorthwywyr swyddfa, goruchwylwyr swyddfa, cynorthwywyr personol, ysgrifenyddion neu dderbynyddion mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau. 

Mae Lefel 2 ar gyfer dysgwyr sy’n symud ymlaen o ddyfarniad Lefel 1, neu sydd â rhai sgiliau a gwybodaeth Microsoft Office eisoes ac sydd am uwchsgilio ymhellach. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr i sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn addas i’w rolau unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn addysgu pedair sesiwn dros Microsoft Teams i gwmpasu’r cynnwys a’r gofynion asesu.

Mae’n bosibl y bydd angen i’r dysgwr gwblhau tystiolaeth aseiniad y tu allan i’r sesiynau addysgu wedi’u cynllunio. Gallwn drefnu darpariaeth wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth os oes digon o alw.

Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i gwmpasu’r cymhwyster mewn fformat hyblyg ond cyflym, gan ei gwneud yn haws i gyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith. Am y rheswm hwn, byddwn yn cwblhau asesiad cychwynnol cyn i ddysgwyr ddechrau’r cwrs i sicrhau eu bod yn cael eu gosod ar y lefel gywir. Byddwn yn trafod opsiynau i symud ymlaen i lefelau uwch gyda’r dysgwyr ar ddiwedd y cwrs.

Unedau gorfodol 

  • Technegau prosesu geiriau
  • Technegau taenlenni 
  • Rheoli e-bost yn y gweithle  

Unedau dewisol

  • Creu cyflwyniadau digidol
  • Cydweithredu digidol 

I gwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â thasgau ymarferol ochr yn ochr ag addysgu amser real dan arweiniad. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn dangos y rhain drwy gwblhau tasgau i adeiladu portffolio o dystiolaeth.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.