Technegydd Data (Dadansoddwr Data) Lefel 3 - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cwrs Technegydd Data Lefel 3 (Dadansoddi Data) yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli, riportio, dadansoddi a delweddu data. Mae’r cwrs yn cynnwys testunau fel moeseg a diogelwch, ac mae’n addas ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio mewn rolau sy’n ymwneud â thrin a dadansoddi data.
Bydd dysgwyr yn ennill sgiliau meddwl beirniadol wrth gaffael a defnyddio data a byddant yn cael cyfle i archwilio technegau ar gyfer modelu data a meddalwedd ar gyfer delweddu data.
Gwybodaeth allweddol
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer unigolion mewn rolau fel Technegydd Data, Dadansoddwr Data Iau, Gweinyddwr Data, Cynorthwyydd Cymorth Data, Technegydd Rheoli Data, Technegydd Cymorth Data TG, Cynorthwyydd Deallusrwydd Busnes a Thechnegydd Cydymffurfiaeth Data.
Mae’r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd am wella eu sgiliau dadansoddi data neu symud ymlaen i rolau digidol.
Bydd dysgwyr yn gweithio gyda Thiwtor/Aseswr ymroddedig a fydd yn teilwra'r rhaglen i rolau unigol a phrofiadau blaenorol.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell ar Microsoft Teams gyda sesiynau wyneb yn wyneb opsiynol. Mae amserlenni hyfforddi yn hyblyg ac wedi'u cynllunio i osgoi unrhyw straen ar y gweithle.
Unedau dewisol
Yn ogystal ag unedau gorfodol, gall dysgwyr ddewis ystod eang o unedau dewisol i deilwra eu dysgu, gan gynnwys:
- Cymhwyso moeseg data i weithgarwch data
- Creu cronfeydd data i storio a defnyddio data
- Cynhyrchu delweddiadau data i gefnogi mewnwelediadau busnes
- Cyflawni gweithrediadau rheoli gwybodaeth
- Dehongli gwybodaeth ddigidol
- Prosesu a dadansoddi mathau o ddata strwythuredig.
Asesu
Bydd dysgwyr yn creu portffolio o dystiolaeth gan gynnwys adroddiadau, Bydd asesiadau’n cynnwys trafodaethau proffesiynol, cyflwyniadau ac arddangosfeydd ymarferol.
Bydd cyfarfodydd un-i-un rheolaidd yn gyda Thiwtoriaid/Aseswyr yn hybu cynnydd. Caniateir Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) os yw wedi'i gyflawni o fewn y tair blynedd diwethaf.
Manteision y Cwrs
- Cymhwyster cydnabyddedig
- Datblygiad personol a phroffesiynol
- Datblygu sgiliau data allweddol a dadansoddi sgiliau
- Cymhwysedd mewn trin a riportio data
- Yn hybu dilyniant gyrfa mewn rolau digidol a data.