Skip to main content

Gosod Carpedi – Cwrs

Rhan-amser, GCS Training
Llys Jiwbilî
Dau ddiwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cwrs Gosod Carpedi deuddydd cynhwysfawr hwn yn rhoi’r wybodaeth ymarferol, y sgiliau technegol a’r ymwybyddiaeth diogelwch sydd eu hangen ar ddysgwyr i osod carpedi yn broffesiynol ar amrywiaeth o loriau.

Mae’r cwrs yn cyfuno addysg yn yr ystafell ddosbarth gyda hyfforddiant ymarferol, sy’n cynnwys popeth o baratoi’r islawr a gosod haen waelodol i osod carped ar fannau gwastad, grisiau, grisiau trwynbwl a grisiau troellog.

Bydd dysgwyr yn dysgu sut i greu uniadau o ansawdd proffesiynol gan ddefnyddio technegau semio gwres, yn ogystal â’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gosod carped, gan roi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu technegau a’u hyder mewn amgylchedd hyfforddi dan oruchwyliaeth.

Gwybodaeth allweddol

Gallu gweithio’n gorfforol ar eich pengliniau yn ein mannau hyfforddi.

Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb gyda hyfforddwyr a gosodwyr cymwysedig yn ein Cyfleuster Hyfforddi Gorchuddio  Lloriau yn Llys Jiwbilî.

Mae cyfleoedd dilyniant yn cynnwys cyrsiau Gorchuddio Lloriau eraill, fel Paratoi Islawr a Finyl Dalen Domestig.

Cost y cwrs yw £450 y pen.

Nid yw’n cynnwys cinio, ond mae ffreutur ar y campws.