Gwneud Pâr o Drowsus (Cwrs Gwnïo)
Trosolwg
Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut i gynllunio a gwneud pâr o drowsus gan ddefnyddio peiriant gwnïo.
Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu am wahanol arddulliau agor a ffasno, ychwanegu sipiau, gwneud tyllau botwm a defnyddio lastig. Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i ddewis rhwng arddulliau ffurfiol neu hamddenol ac yn eich addysgu am addasrwydd ffabrig.
Byddwch yn dysgu sut i gynllunio gwneud eich eitem i safon broffesiynol, gan gynnwys technegau gorffen â llaw lle bo angen ar gyfer eich dyluniad terfynol.
Gallwch ddewis defnyddio patrwm masnachol, dod â’ch dyluniad patrwm eich hun neu ddefnyddio bloc wedi’i wneud ymlaen llaw fel sail i’ch dyluniad.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sydd â rhywfaint o brofiad o wnïo a gwneud dillad sydd am ehangu eu sgiliau a dysgu technegau newydd.
Dylech eisoes fod â sgiliau gwnïo peiriant sylfaenol a rhywfaint o brofiad o wneud dillad syml. Mae technegau newydd, fodd bynnag, yn cael eu dangos yn llawn o’r cychwyn cyntaf, felly nid oes angen gwybodaeth flaenorol ohonynt.
Wyneb yn wyneb.
Ar y dechrau, byddwn ni’n darparu’r holl ddeunyddiau ond bydd disgwyl i chi ddarparu eich deunyddiau a’ch offer eich hun i gynhyrchu eich prosiect trowsus eich hun.
Dysgwch sut i gyfuno’ch sgiliau gwnïo newydd â sgiliau clytwaith, appliqué neu frodwaith a sashiko eraill fel y gallwch ddylunio hanfodion cwpwrdd dillad sy’n unigryw i’ch steil chi.
Gallwch hefyd symud ymlaen i gyrsiau gweithgynhyrchu dillad eraill, gwneud dilledyn wedi’i leinio neu eitem gwiltiog.