Rheoliadau Gwifrau Trydan IET 18fed Argraffiad – Cwrs Lefel 3
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf yn addas ar gyfer gyfer trydanwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn y diwydiant sydd am sicrhau ardystiad cyfredol ar gyfer eu gwaith
Trwy astudio'r cwrs hwn, bydd dysgwyr yn ennill dealltwriaeth eang o Reoliadau Gwifrau IET cyfredol, BS 7671:2018+A3:2024, gan sicrhau cydymffurfiaeth â safonau diwydiant perthnasol a gofynion cyfreithiol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr wedi bodloni'r meini prawf cymhwyster a gydnabyddir gan y JIB (at ddibenion graddio ac ailraddio).
Gwybodaeth allweddol
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau masnach perthnasol a/neu brofiad o weithio yn y diwydiant trydanol.
Yn ddelfrydol, bydd ymgeiswyr wedi pasio rhifyn cynharach o BS 7671. Ond, rydym yn deall y gall ymrwymiadau gwaith amharu ar waith paratoi, felly bydd ymgeiswyr sy'n gwneud cais i astudio’r cwrs undydd yn cael eu hystyried.
Efallai na fydd angen cymwysterau ffurfiol, bydd hyn yn dibynnu ar brofiad.
Cyflwynir y cwrs hwn mewn un diwrnod.
Drwy gydol y dydd, byddwch yn dysgu sut i ddehongli a chymhwyso rheoliadau BS 7671:2018+A3:2024. Bydd hyn yn hybu eich dealltwriaeth o safonau cydymffurfio o ran gosodiadau domestig, masnachol a diwydiannol.
Bydd y cwrs yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Cwmpas, gwrthrych ac egwyddorion sylfaenol
- Diffiniadau
- Asesiad o nodweddion cyffredinol a phrosesau daearu
- Diogelwch, gan gynnwys diogelu sylfaenol a diogelu rhag namau
- Dewis a gosod offer
- Arolygu a phrofi
- Gosodiadau a lleoliadau arbennig
- Gofynion swyddogaethol
- Defnyddio atodiadau
Mae'r cwrs yn cwmpasu pob agwedd ar Reoliadau Gwifrau - Argraffiad 18f (BS 7671:2018+A3:2024).
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â defnyddio llyfrau Rheoliadau. Bydd cwestiynau papurau blaenorol yn cael eu hadolygu yn ystod sesiynau'r bore ac ar ddechrau'r prynhawn. Bydd y diwrnod yn gprffen gydag arholiad ffurfiol (yr fformat â'r cwrs tridiau).
Cwrs Cyfunol Arolygu a Phrofi EAL 6337/6338.
Yn wahanol i’r cwrs tridiau sy'n cael ei gynnig am ddim, mae'r cwrs undydd hwn yn costio £250.