Skip to main content

Sesiynau Blasu Wythnos Addysg Oedolion

Rhan-amser
Arall

Trosolwg

Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2024, rydyn ni’n gyffrous i gynnig amrywiaeth o sesiynau blasu am ddim gyda’r nod o ddeffro’ch creadigrwydd a thanio angerdd am ddysgu gydol oes. Ymunwch â ni i archwilio sgiliau newydd, ailddarganfod hen hobïau, a chysylltu â chymuned gefnogol o gyd-ddysgwyr.

Galli di gofrestru ar-lein neu ddod i noson agored addysg i oedolion ar ddydd Llun 9 Medi neu ddydd Mawrth 10 Medi, lle byddi di’n gallu cofrestru yn bersonol a darganfod mwy am yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael. Cofrestra heddiw!

Cyflwyniad i Wehyddu Gwŷdd Peg

Mae gwehyddu gwŷdd peg yn grefft syml ond creadigol sy’n cynnwys gwehyddu edafedd neu ffibrau eraill o amgylch cyfres o begiau neu hoelbrennau i greu amrywiaeth o brosiectau tecstilau. Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn yn addas i ddechreuwyr sydd am ddysgu hanfodion gwehyddu gwŷdd peg a chreu eu darnau unigryw eu hunain.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu technegau sylfaenol gwehyddu gwŷdd peg, gan gynnwys gosod y gwŷdd, dewis edafedd neu ddefnyddiau priodol, a dod yn gyfforddus â’r broses wehyddu. Trwy weithdai ymarferol a gwersi dan arweiniad, byddwch yn archwilio gwahanol batrymau gwehyddu, cyfuniadau lliw, ac elfennau dylunio i gynhyrchu amrywiaeth o eitemau wedi’u gwehyddu â phegiau.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych yr wybodaeth a’r hyder i barhau â’ch taith gwehyddu gwŷdd peg, gan greu darnau personol a swyddogaethol sy’n adlewyrchu eich arddull a’ch esthetig unigryw.

Cofrestru yma

Rheoli Eich Cyfrineiriau

Ydych chi’n ei chael yn anodd cofio eich cyfrineiriau? Ydych chi’n defnyddio’r un cyfrinair am bopeth rydych chi’n ei wneud ar-lein? Mae’r cwrs blasu hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn eich addysgu sut i greu cyfrineiriau cryfach a’u storio’n ddiogel, fel na fydd rhai i chi eu cofio na’u hysgrifennu, gan eich helpu i aros yn ddiogel ar-lein.

Diogelwch Ar-lein

Mae’r cwrs blasu hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn edrych ar wneud eich dyfais yn fwy diogel. Bydd yn dangos sut y gallwch ychwanegu mwy o haenau diogelwch wrth ddefnyddio eich dyfais. Byddwn ni hefyd yn edrych ar gyfrineiriau a sut y gallwch eu cryfhau, a gweld ac osgoi sgamiau.

Cofrestru yma

Lluniau – Trefnu a Chadw Copi Wrth Gefn

Hoffech chi amddiffyn eich lluniau a’ch atgofion gwerthfawr? Oes gennych chi hen luniau yr hoffech eu cadw? Bydd y cwrs blasu rhad ac am ddim hwn yn eich addysgu sut i greu ffolderi i storio’ch atgofion gwerthfawr a’u gwneud yn haws dod o hyd iddynt; creu copi wrth gefn i sicrhau bod gennych gopi arall, rhag ofn i’ch dyfais fynd ar goll, yn cael ei ddwyn, neu’n torri; dangos gwahanol ffyrdd i chi gadw eich lluniau, gan gynnwys sganio hen luniau i gael copi digidol.

Cofrestru yma

Pwytho Sashiko

Mae pwytho sashiko yn dechneg tecstilau gyfareddol sy’n cynnwys creu patrymau cymhleth trawiadol gan ddefnyddio pwythau rhedeg syml. Bwriedir y cwrs ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn archwilio harddwch ac amlbwrpasedd y grefft hon.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i ddewis defnyddiau priodol ac ymgyfarwyddo â’r technegau pwytho sashiko sylfaenol. Trwy weithdai ymarferol a gwersi dan arweiniad, byddwch yn arbrofi yn hyderus ag elfennau dylunio gwahanol, paletau lliw, a rhythmau pwytho i greu’ch eitemau sashiko unigryw eich hun. 

Nid oes angen profiad blaenorol o frodwaith na gwniadwaith, gan fod y cwrs yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol i fyfyrwyr sy’n ddechreuwyr pur. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych yr hyder a’r wybodaeth i barhau â’ch taith pwytho sashiko gartref.

Cofrestru yma

Siopa Ar-lein yn Ddiogel

Hoffech chi allu siopa ar-lein yn ddiogel?  Does dim angen bod ofn. Mae’r cwrs blasu hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn eich addysgu sut y gallwch siopa ar-lein yn ddiogel a ffyrdd o nodi sgamiau siopa posibl ar-lein, yn ogystal â gwahanol ffyrdd o dalu ar-lein.

Cofrestru yma

Cudynnu i Ddechreuwyr

Mae cudynnu yn dechneg tecstilau cyfareddol sy’n cynnwys creu dyluniadau tri-dimensiwn cymhleth trwy yrru edafedd neu ffibr trwy ddefnydd cefn. Nod y cwrs rhagarweiniol hwn yw dysgu hanfodion cudynnu i ddechreuwyr er mwyn iddynt allu creu eu darnau cudynnog unigryw eu hunain.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn dysgu’r offer a’r defnyddiau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer cudynnu, gan gynnwys y gwn cudynnu, ffabrigau cefnu, ac amrywiaeth o opsiynau edafedd neu ffibr. Dan arweiniad hyfforddwyr profiadol, byddwch yn ymarfer technegau cudynnu sylfaenol, a dysgu sut i densiynu’r edafedd i greu rhesi a phatrymau cyson. 

Nis oes angen profiad blaenorol o gudynnu na thecstilau. Mae’r amgylchedd dosbarth cefnogol yn annog myfyrwyr i ddarganfod eu llais creadigol trwy gudynnu.

Cofrestru yma

Eich llwybr tuag at yrfa mewn Marchnata Digidol: Prentisiaethau a Gweithdai wedi’i hariannu’n llawn

10 Medi, 2pm - 2.30pm ar Teams.

Ymunwch â ni am weminar diddorol lle byddwn yn archwilio’r cyfleoedd cyffrous sydd ar gael trwy brentisiaethau wedi’u hariannu’n llawn a chyrsiau byr mewn Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol. P'un a ydych am roi hwb i'ch gyrfa, uwchsgilio, neu symud i faes deinamig newydd, bydd y sesiwn hon yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Dysgwch am dueddiadau cyfredol, gofynion y diwydiant a sut y gallwch ennill profiad ymarferol ac ennill cymwysterau cydnabyddedig - yn rhad ac am ddim. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gymryd y cam cyntaf tuag at yrfa ym maes marchnata digidol!

Cofrestrwch yma.

Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes

11 Medi, 1pm - 1.30pm ar Teams.

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn diddorol lle byddwch yn darganfod sut y gallwch achub y blaen ar eraill yn yr oes ddigidol. Yn ystod y sesiwn byddwch yn derbyn cyflwyniad i’n cyrsiau digidol wedi’u hariannu’n llawn ac sydd wedi’u cynllunio i wella eich rhagolygon gyrfa, p’un ai a ydych newydd ddechrau gyrfa neu yn dymuno symud ymlaen o fewn eich gyrfa. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu am yr ystod o gymwysterau achrededig rydym yn eu cynnig sydd wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch i weithio mewn gweithle digidol.

Cofrestrwch yma.

Gwella Arbenigedd technegol

12 Medi, 2pm - 2.30pm ar Teams.

Ymunwch â ni am weminar ar brentisiaeth Broffesiynol mewn TG a Thelathrebu. Dyma raglen hyfforddi ddeinamig sy’n datblygu unigolion sy’n gweithio mewn rolau TG. P’un ai a ydych yn newydd i’r diwydiant neu yn chwilio i symud ymlaen o fewn eich rôl, mae’r brentisiaeth hon yn cynnig sylfaen gadarn i rolau technegol a rolau sy’n ymwneud â chwsmeriaid yn y sector TG.

Cofrestrwch yma.

Gwybodaeth allweddol

Dim gofynion mynediad.

Adult Learners' Week
Welsh Government
Learning and Work Institute
Working Wales
Sashiko Stitching
Cod y cwrs: ZA648 POA
09/09/2024
Gorseinon Library
1 day
Mon
10:30 - 12:30
£0
Intro to Peg Weaving
Cod y cwrs: ZA648 POA2
09/09/2024
Gorseinon Library
1 day
Mon
13:30 - 15:30
£0
Intro to Peg Weaving
Cod y cwrs: ZA648 POA2
09/09/2024
Gorseinon Library
1 day
Mon
13:30 - 15:30
£0
Sashiko Stitching
Cod y cwrs: ZA648 POA
09/09/2024
Gorseinon Library
1 day
Mon
10:30 - 12:30
£0
Online Safety
Cod y cwrs: ZA572 POA
09/09/2024
Morriston Library
1 day
Mon
10:00 - 12:00
£0
Photos (organising and backing up)
Cod y cwrs: ZA488 POA
09/09/2024
Morriston Library
1 day
Mon
12:30 - 14:30
£0
Intro to Peg Weaving
Cod y cwrs: ZA648 POB2
10/09/2024
Gowerton Library
1 day
Tue
13:30 - 15:30
£0
Intro to Peg Weaving
Cod y cwrs: ZA648 POB2
10/09/2024
Gowerton Library
1 day
Tue
13:30 - 15:30
£0
Sashiko Stitching
Cod y cwrs: ZA648 POB
10/09/2024
Gowerton Library
1 day
Tue
10:30 - 12:30
£0
Shopping Online
Cod y cwrs: ZA401 POB
10/09/2024
Gorseinon Library
1 day
Tue
12:30 - 14:30
£0
Manage your passwords
Cod y cwrs: ZA572 POB
10/09/2024
Gorseinon Library
1 day
Tue
10:00 - 12:00
£0
Sashiko Stitching
Cod y cwrs: ZA648 POB
10/09/2024
Gowerton Library
1 day
Tue
10:30 - 12:30
£0
Shopping Online
Cod y cwrs: ZA401 POC
11/09/2024
Morriston Library
1 day
Wed
10:00 - 12:00
£0
Intro to Peg Weaving
Cod y cwrs: ZA648 POC2
11/09/2024
Morriston Library
1 day
Wed
13:30 - 15:30
£0
Sashiko Stitching
Cod y cwrs: ZA648 POC
11/09/2024
Morriston Library
1 day
Wed
10:30 - 12:30
£0
Manage your passwords
Cod y cwrs: ZA572 POC2
11/09/2024
Morriston Library
1 day
Wed
12:30 - 14:30
£0
Photos (organising and backing up)
Cod y cwrs: ZA488 POC
11/09/2024
Gowerton Library
1 day
Wed
10:30 - 12:30
£0
Online Safety
Cod y cwrs: ZA572 POC
11/09/2024
Gowerton Library
1 day
Wed
10:30 - 12:30
£0
Intro to Peg Weaving
Cod y cwrs: ZA648 POC2
11/09/2024
Morriston Library
1 day
Wed
13:30 - 15:30
£0
Sashiko Stitching
Cod y cwrs: ZA648 POC
11/09/2024
Morriston Library
1 day
Wed
10:30 - 12:30
£0
Shopping Online
Cod y cwrs: ZA401 PLD
12/09/2024
Llwyn y Bryn
1 day
Thu
12:30 - 14:30
£0
Manage your passwords
Cod y cwrs: ZA572 PLD
12/09/2024
Llwyn y Bryn
1 day
Thu
10:00 - 12:00
£0
Online Safety
Cod y cwrs: ZA572 ELD
12/09/2024
Llwyn y Bryn
1 day
Thu
17:30 - 19:30
£0
Tufting for Beginners
Cod y cwrs: ZA648 PLD2
12/09/2024
Llwyn y Bryn
1 day
Thu
13:00 - 16:00
£0
Sashiko Stitching
Cod y cwrs: ZA648 PLD
12/09/2024
Llwyn y Bryn
1 day
Thu
10:30 - 12:30
£0
Online Safety
Cod y cwrs: ZA572 PLE
13/09/2024
Llwyn y Bryn
1 day
Fri
12:30 - 14:30
£0
Photos (organising and backing up)
Cod y cwrs: ZA488 PLE
13/09/2024
Llwyn y Bryn
1 day
Fri
10:00 - 12:00
£0
Sashiko Stitching
Cod y cwrs: ZA648 POE
13/09/2024
Penlan Library
1 day
Fri
10am - 12:30pm
£0