Ymarfer Celf yn Gymraeg
Trosolwg
Archwiliwch eich creadigrwydd a datblygu’ch sgiliau iaith Gymraeg ar y cwrs celf amlddisgyblaethol hwn. Cewch gyfle i roi cynnig ar gyfryngau a phrosesau amrywiol, gan ehangu eich geirfa a magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
Yn gyfle i roi cynnig ar dechnegau creadigol newydd fel collage, gwneud llyfrau, gwneud printiau, wrth ymarfer dy Gymraeg a dod i nabod pobl newydd sydd hefyd yn dysgu Cymraeg.
Mae ein dosbarthiadau croesawgar ac anffurfiol ar agor i ddysgwyr Cymraeg ar bob lefel, gan ddarparu gofod cefnogol i ymarfer yr iaith trwy gelf.
Gwybodaeth allweddol
- Y gallu i ddeall Cymraeg
- Dim profiad blaenorol o gelf.
Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i gyrsiau nos eraill cysylltiedig â chelf/crefft a addysgir yn ddwyieithog, neu gofrestru ar gyrsiau Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.