Skip to main content

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Lefel 2 - Diploma Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 2
C&G
Tycoch
Un flwyddyn
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriedir y cwrs Lefel 2 hwn i ddysgwyr 16+ oed yn benodol, er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i ddechrau gyrfa lewyrchus mewn gofal plant. Mae’r cwrs yn fan cychwyn perffaith ar gyfer eich gyrfa mewn addysg blynyddoedd cynnar, p’un a ydych chi am weithio mewn meithrinfeydd, ysgolion, neu fel gwarchodwr plant.  

Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol, a phrofiad ymarferol i wneud effaith gadarnhaol ar fywydau plant ifanc. Dros y flwyddyn, byddwch yn mynychu lleoliad gwaith a sesiynau a addysgir yn y Coleg gan staff cyfeillgar, cefnogol a gwybodus. 

Gwybodaeth allweddol

  • Dwy radd C ar lefel TGAU ac o leiaf radd D mewn Saesneg Iaith, or gwrs Lefel 1 addas gydag adroddiad tiwtor cadarnhaol. 
  • Rhaid i chi gwblhau DBS cyn cofrestru ar y cwrs (tua £40). 

Mae dwy elfen i’r cwrs amser llawn hwn: CBAC Lefel 2 Craidd a Lefel 2 Ymarfer a Theori a fydd yn cael eu cwblhau dros un flwyddyn academaidd.   
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster Craidd, byddwn ni’n eich paratoi i basio un asesiad amlddewis.  


Er mwyn cyflawni’r cymhwyster ymarfer a theori, byddwn ni’n eich cefnogi i gwblhau portffolio lleoliad. Bydd hyn yn cynnwys arsylwi a chynllunio gweithgareddau i blant 0-7 oed.   


Yn ogystal, byddwch yn cwblhau arholiad theori seiliedig ar gynnwys a addysgir yn y dosbarth gyda chyfle i’w ailsefyll.  
Bydd yr holl asesiadau yn arwain at radd pasio neu fethu. 

Bydd pasio’r cwrs hwn yn rhoi cyfleoedd i chi wneud cais am y canlynol:  

  • Byddwn ni’n eich helpu i ddod o hyd i leoliad addas pan fyddwch yn dechrau gyda ni
  • Bydd angen DBS glân (gwiriad yr heddlu) cyn dechrau.  

Explore in VR