Skip to main content

Twristiaeth Uwch Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Drwy gydol y cwrs dwy flynedd hon, byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau, lle byddwch yn sylweddoli sut mae’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn cysylltu â chynifer o sectorau gwaith.  

  • Mae pynciau’n cynnwys:  
  • Gwasanaeth cwsmeriaid 
  • Paratoi ar gyfer gyrfa 
  • Ymchwilio i griw caban cwmni hedfan 
  • Atyniadau ymwelwyr yn y DU 
  • Cyrchfannau teithio a thwristiaeth 
  • Y diwydiant cynadledda a digwyddiadau yn y DU 
  • Lletygarwch mewn teithio a thwristiaeth. 

Byddwch chi hefyd yn astudio cymhwyster Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru.   

 

Gwybodaeth allweddol

  • Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith neu Gymraeg 
  • neu gymhwyster Diploma Lefel 2 mewn pwnc cysylltiedig (gyda phroffil teilyngdod). 

Asesiadau parhaus trwy aseiniadau, chwarae rôl a chyflwyniadau. Graddau Pasio, Teilyngdod a Rhagoriaeth. 

100% gwaith cwrs, lle byddwch yn casglu portffolio o dystiolaeth ym mlwyddyn 1 a blwyddyn 2. 

Astudiaethau pellach yn y brifysgol mewn pynciau cysylltiedig megis lletygarwch, hamdden, twristiaeth neu reoli teithiau awyr.  

Gyrfaoedd mewn rheoli atyniadau, asiantaeth deithio, criw caban cwmni hedfan, gwasanaethau cwsmeriaid neu reoli digwyddiadau i enwi dim ond rhai! 
 

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys teithiau cyffrous i atyniadau lleol a chenedlaethol, gan roi profiadau uniongyrchol i chi gasglu tystiolaeth ar gyfer eich aseiniadau. Mae’r ymweliadau hyn yn rhoi ystyr i’r gwaith cwrs, gan wella a chyfoethogi eich dysgu a gwneud eich aseiniadau yn hwyl.  

Costau’r cwrs yw tua £100-£150 (blwyddyn 1), £350 (blwyddyn 2) 

Mae cymorth ariannol ar gael (os yw’n briodol). 

Explore in VR