Skip to main content
Adeilad hanesyddol Plas Sgeti i elwa ar gynlluniau adnewyddu newydd sbon

Adeilad hanesyddol Plas Sgeti i elwa ar gynlluniau adnewyddu newydd sbon

Mae Plas Sgeti Coleg Gŵyr Abertawe ar fin cael ei hadnewyddu o dan gynlluniau datblygu arfaethedig newydd.

Bydd yr adeilad rhestredig Gradd II, sydd wedi’i leoli ar diroedd hardd ger Parc Singleton, yn cael ei ail-leoli fel Ysgol Fusnes, yn gartref i amrywiaeth eang o gyrsiau proffesiynol yn ogystal â chymwysterau lefel uwch a phrentisiaethau gradd.

Mae’r adeilad eiconig wedi bod yn rhan o ystâd y Coleg er 1994 ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi mwynhau ei enw da fel lleoliad poblogaidd ar gyfer priodasau, ciniawau canol dydd a chiniawau gyda’r hwyr yn ogystal â bod yn brif leoliad ar gyfer ein cyrsiau cyfrifeg statws platinwm.

Fodd bynnag, gyda’r twf parhaus yn y galw am y cyrsiau hyn a chyrsiau eraill, bydd y safle yn awr yn dod yn lle pwrpasol ar gyfer darpariaeth dysgu ac addysgu’r Coleg.

Mae'r Coleg wedi cyflwyno cais am arian cyfalaf - ar gael trwy Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu addysg - ac os yw'n llwyddiannus bydd yn caniatáu i'r cynlluniau ddwyn ffrwyth.

Dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn gwneud cynlluniau i adnewyddu Plas Sgeti yn Ysgol Fusnes newydd sbon.

“Bydd yn dod â dimensiwn newydd i bortffolio’r Coleg, gan gynnig ystod eang o gyrsiau lefel uwch a phroffesiynol. Bydd hefyd yn cynnwys lle cymdeithasol newydd i fyfyrwyr, bar coffi a llyfrgell.

“Bydd y gwaith adnewyddu yn rhoi cyfle i ni fanteisio ar ein darpariaeth ddysgu gref yn y meysydd hyn, gan ein galluogi i ehangu ymhellach fyth yn y dyfodol.

“Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio gyda’r cyngor lleol, ymgynghorwyr treftadaeth a chymuned ehangach y Coleg i ddarparu gwaith adnewyddu y bydd Abertawe yn falch ohono ac a fydd yn cynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i’n myfyrwyr.”

Gall y Coleg gadarnhau ei fod wedi ymgynghori â’r holl westai ac ymwelwyr rheolaidd fel rhan o’r cyfathrebu ynghylch y cynlluniau newydd.

Argraffiadau artist diolch i Penketh Group