Skip to main content

Annog pobl ifanc i fentro i faes electroneg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn annog y genhedlaeth nesaf o dalent i fentro i’r diwydiant electroneg defnyddwyr.

O ganlyniad i gais llwyddiannus a wnaed gan yr Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams i Worldskills, bydd dwy fyfyrwraig technoleg ddigidol yn goruchwylio’r Digwyddiad Electroneg Ddiwydiannol yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Worldskills yn yr NEC ym mis Tachwedd. Gyda’r potensial i gael ei weld gan filoedd o bobl dros y digwyddiad dau ddiwrnod, bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu prosiect buddugol Cynllun Addysg Peirianneg Cymru – prototeip ar gyfer Teledu Clyfar – ac yn cynnal sesiynau rhyngweithiol i hyrwyddo’r diwydiant.

“Mae gennym ddwy fyfyrwraig wych, Sara Vonk a Chloe Moore, a byddan nhw’n rhedeg y Digwyddiad am y sioe gyfan,” dywedodd Steve. “Mae hyn yn anrhydedd mawr ar gyfer Coleg Gŵyr Abertawe gan mai ni fydd yr unig sefydliad addysg bellach sy’n cynrychioli’r sector yn ystod y digwyddiad nodedig iawn hwn.”

Yn ogystal, mae Steve, a benodwyd yn ddiweddar yn Gadeirydd Fforwm Hyfforddiant Gwasanaethu Trydanol ac Electronig Gartref (HEEST), wedi sefydlu gweithgor o fyfyrwyr a rhoi iddynt y dasg o roi cynllun at ei gilydd i ennyn diddordeb pobl ifanc ym myd cynhyrchion electroneg defnyddwyr.

Bydd Michael Jones, Daniel Jones a Ryan O’Connor, sy’n astudio tuag at EAL Diploma L3 mewn Technoleg Drydanol ac Electronig, yn ailddylunio gwefan HEEST a rhwydweithiau’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn mynd gyda Steve i Lundain yn y Flwyddyn Newydd i gyflwyno eu gweledigaeth i gwmnïau electroneg arweiniol mewn cyfarfod bwrdd HEEST.

"Y ffordd orau i ddenu pobl ifanc i’r sector yw cael hyd i fodelau rôl da iawn y gallan nhw uniaethu’n hawdd â nhw," ychwanegodd Steve. "Trwy fynychu’r sioeau hyn a rhoi myfyrwyr ar flaen y gad o ran datblygu, rydym yn gobeithio cyflawni hyn. Mae electroneg defnyddwyr yn faes twf mor fawr mae cyfleoedd cyffrous iawn i'w cael nawr - mae angen i bobl ifanc wybod hyn ac rydym yn croesawu eu cyfraniad a’u cyfranogiad.”