Skip to main content

Carreg filltir i Ffair Amrywiaeth y coleg

Mae staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe newydd ddathlu carreg filltir liwgar iawn - degfed pen-blwydd ei Ffair Amrywiaeth.

Bob blwyddyn ers 2005, mae myfyrwyr, staff a grwpiau cymunedol wedi dod at ei gilydd yn y coleg ar gyfer gwledd o gerddoriaeth a dawns.

Ymysg yr adloniant eleni roedd drymio Affricanaidd, crefft ymladd Brasil, arddangosiadau o ddawnsio Bollywood, dawnsio stryd a dawnsio Tsieineaidd. Darparwyd cerddoriaeth fyw gan fyfyrwyr o Lwyn y Bryn a Gorseinon yn ogystal â chôr Coleg Gŵyr Abertawe.

Roedd cyfranogwyr allanol yn cynnwys Bawso, aelodau o'r cymunedau Tsieineaidd a Thai lleol, Swansea City of Sanctuary a Chyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe, gyda stondinau gwybodaeth yn y coleg.

“Mae ein myfyrwyr yn chwarae rôl hollbwysig yn y digwyddiad hwn," dywedodd Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y coleg, Jane John. "Roedd y myfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol wedi paratoi bwth lluniau 'herio stereoteipiau', roedd ein myfyrwyr ESOL wedi trefnu stondin yn codi arian ar gyfer ffoaduriaid o Syria (£137 wedi'i godi ar hyn o bryd), ac roedd myfyrwyr TG wedi cynhyrchu cyflwyniad PowerPoint a gêm fideo am gydraddoldeb rhyw, seibr-fwlio a throlio ar-lein. Roedd stondinau gan gymdeithasau ffeministiaeth, Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol ac amgylcheddol y coleg hefyd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb.

Mewn cydweithrediad ag Wythnos Amrywiaeth ehangach y coleg, cynhaliwyd cyfres o weithdai a digwyddiadau codi arian i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Roedd hyn ar ffurf gweithdai gyda myfyrwyr plymwaith, trydanol a chwaraeon, ychydig bach o gwyro coesau nodedig yn Nhycoch, a thwrnamaint tennis bwrdd rhwng myfyrwyr ESOL a staff yn Llwyn y Bryn. Mae dros £85 wedi cael ei godi cyn belled ar gyfer y fenter hon.

“Mae Wythnos Amrywiaeth yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd i ddathlu cyfoeth diwylliannol ein cymuned," ychwanegodd Jane. "Gyda chymorth a chefnogaeth ein sefydliadau partneriaeth, gallwn ni gael llawer o hwyl yn ogystal â hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb, fel trosedd casineb, hiliaeth a lloches yn ystod gwersi a gweithdai."

Lluniau: Ffair Amrywiaeth Gorseinon - Nikkila Thomas / Tycoch - Chris Costello / Llwyn y Bryn - Ben Murphy