Coleg Gŵyr Abertawe am benodi aelod Bwrdd newydd


Diweddarwyd 07/04/2016

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig ystod eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol amser llawn a rhan-amser ar ddau brif safle a dau safle llai yn Abertawe a Gorseinon. Mae myfyrwyr yn cael lefelau uchel o lwyddiant academaidd, gyda dros 900 o fyfyrwyr yn symud ymlaen i'r brifysgol bob blwyddyn, gan gynnwys, yn 2014, naw i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Mae'r Coleg yn cyflogi bron 1000 o staff ac mae ganddo drosiant o £37m.

Hoffai Coleg Gŵyr Abertawe glywed gan unigolion o safon uchel sydd am ymuno â Bwrdd y Gorfforaeth. Mae'r Gorfforaeth wedi ymrwymo i wneud y Coleg y coleg gorau yng Nghymru - wedi'i ymroi i ddarparu'r arweinyddiaeth a'r profiad dysgu gorau drwy'r cwricwlwm y mae'n ei gynnig, gan gynnig gwerth am arian, y gwasanaethau gorau i gyflogwyr a'r cyfleoedd gorau i bawb.

Mae'r Gorfforaeth yn chwilio'n arbennig am rywun o'r gymuned fusnes leol sydd wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus. Bydd yn gallu cynnig sgiliau strategol a phrofiad ar lefel uchel a rhoi cyngor diduedd, monitro a chraffu gweithredol, cynllunio strategol a gweledigaeth, arweinyddiaeth a chyfeiriad. Bydd yr aelod yn ymuno â thîm amrywiol sy'n dod â chymysgedd cyfoethog o brofiad, barnau, gwybodaeth a sgiliau i'r Coleg ac sydd, gyda'i gilydd, yn gwneud cyfraniad hollbwysig at ddatblygiad parhaus y Coleg.

Disgwylir i aelodau Bwrdd fynychu chwe chyfarfod Bwrdd bob blwyddyn a thua chwe chyfarfod pwyllgor yn ogystal â chadw i fyny â bywyd a gwaith y Coleg trwy weithgareddau datblygu a bod yn bresennol drwy wahoddiad mewn digwyddiadau eraill. Rôl wirfoddol yw hon heb unrhyw dâl ond bydd costau teithio yn cael eu had-dalu.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cysylltwch â Sharon Barron, Clerc i'r Gorfforaeth, Coleg Gŵyr Abertawe, Campws Tycoch, Heol Tycoch, Abertawe, SA2 9EB.

Tags: