Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe ar y rhestr fer mewn tri chategori yn y Gwobrau Adnoddau Dynol

Coleg Gŵyr Abertawe ar y rhestr fer mewn tri chategori yn y Gwobrau Adnoddau Dynol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn tri chategori yng Ngwobrau AD Cymru 2018, sy’n cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau gweithwyr proffesiynol a chyflogwyr ym maes AD ledled Cymru.

Wedi’i lansio yn 2017, y seremoni wobrwyo yw’r digwyddiad pwysicaf yn Rhwydwaith AD Cymru, grŵp proffesiynol blaengar sy’n rhwydweithio ac yn rhannu syniadau, a grëwyd ac a reolir gan y cwmni cyfreithiol Darwin Gray yng Nghaerdydd ac  Acorn, prif arbenigwyr recriwtio Cymru. 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe ar y rhestr fer yn y categori Cyflogwr y Flwyddyn ac mae’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Sarah King ar y rhestr fer yn y categori Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn – un o ddim ond pump yn y rownd derfynol sy’n cystadlu am y gydnabyddiaeth a theitl Gweithiwr Proffesiynol Gorau AD.  

Mae’r seremoni wobrwyo, fydd yn cael ei llywyddu gan Sian Lloyd o’r BBC, yn cydnabod y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes AD ar bob lefel, o brentisiaid i gyfarwyddwyr, a sefydliadau yn gyffredinol ar draws gwahanol sectorau diwydiant yng Nghymru – gan ddangos ymrwymiad, gwaith caled a chyflawniadau unigolion a thimau yn y proffesiwn AD dros y 12 mis diwethaf.

Bydd y noson yn cynnwys adloniant gan Big Mac’s Wholly Soul Band, gyda siaradwyr ysbrydoledig arbennig o Wobr Dug Caeredin: Rheolwr Partneriaethau ar gyfer elusen Gwobr Dug Caeredin, Ian Gwilym, a Llysgennad Ifanc Dug Caeredin, Billie Horsey.

Dywedodd Pennaeth Cyfraith Cyflogaeth ac AD Darwin Gray, Fflur Jones: “Er bod Adnoddau Dynol wrth wraidd pob cwmni llwyddiannus, yn aml mae’n broffesiwn nad yw’n cael digon o gydnabyddiaeth. Mae Gwobrau AD Cymru wedi creu ymateb gwirioneddol bositif ar draws y sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru - mae’n debyg eu bod nhw wedi taro tant a dwi’n edrych ymlaen at gwrdd â’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar y noson.” 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau De Cymru yn Acorn Recruitment, Maria Larcombe: “Dyn ni wedi cael ein llethu gan yr ymateb a’r gefnogaeth ar gyfer Gwobrau AD Cymru eleni.  Roedd nifer y ceisiadau a gawson ni wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau, ac mae safon yr enwebeion yn wirioneddol eithriadol.

“Mae safon y ceisiadau wedi bod yn hynod gryf a dylai’r enwebeion ar y rhestr fer deimlo’n falch dros ben eu bod nhw wedi cyrraedd y rownd hon.”

Yn ddiolchgar ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn a Gweithiwr Proffesiynol Gorau AD, dywedodd Sarah King: “Dwi wrth fy modd fy mod i ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau anhygoel hyn, mae’n anrhydedd. Mae’n wych bod Cymru yn cydnabod y proffesiwn Adnoddau Dynol a’r cyfraniad mae gweithwyr proffesiynol yn y maes yn ei wneud i’w sefydliadau.”

Yn siarad am gyrraedd y rhestr fer yn y categori Cyflogwr y Flwyddyn, dywedodd y Pennaeth Mark Jones: “Mae’n bleser mawr gyda ni gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Mae’n dangos yn glir sut rydyn ni fel sefydliad yn buddsoddi yn ein cyflogeion ac yn gweld y manteision sy’n codi o ddatblygu a chadw ein staff.”

Caiff enillwyr eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo tai du ddydd Gwener 23 Mawrth yng Ngwesty’r Gyfnewidfa, Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ewch i www.waleshrawards.cymru.

DIWEDD