Skip to main content
Sesiynau gwybodaeth ar gyfer cyflogwyr ym meysydd adeiladu a pheirianneg

Sesiynau gwybodaeth ar gyfer cyflogwyr ym meysydd adeiladu a pheirianneg

Dyma wahoddiad i gyflogwyr sy’n gweithio ym meysydd adeiladu a pheirianneg i fynychu cyfres o sesiynau gwybodaeth ar-lein ym mis Tachwedd. Bydd y sesiynau hyn yn archwilio cyfleoedd hyfforddi i helpu busnesau i ddatblygu eu gweithlu, mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau a pharatoi ar gyfer gofynion yn y dyfodol.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal gan Hannah Morris, Rheolwr Maes Dysgu Amgylchedd Adeiledig yn y Coleg a byddant yn cynnig cyfle i drafod sut y gall cymwysterau lefel uwch a chyrsiau byr arbenigol hybu datblygiad y gweithlu, gan uwchsgilio gweithwyr newydd a phresennol i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau technegol sydd eu hangen ar draws sectorau allweddol.

Cafodd Hannah ei henwi ar restr 100 Menyw fwyaf dylanwadol y sector Adeiladu yn 2024 , sy’n gydnabyddiaeth o’i chyfraniad i’r diwydiant.

Bydd dwy sesiwn ar gael i gyd-fynd ag amserlenni cyflogwyr a bydd y ddwy yn cael eu cynnal yn fyw ar Microsoft Teams. Mae croeso i gyflogwyr alw heibio ar unrhyw adeg yn ystod eu sesiwn i archwilio'r rhaglenni sydd ar gael, trafod anghenion eu gweithlu a chael atebion i'w cwestiynau.

Sesiwn y bore: Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026, 8.30am-10.30am.

Sesiwn gyda’r nos: Dydd Iau 19 Tachwedd 2026, 4.30pm-5.30pm. 

Dywedodd Hannah Morris, Rheolwr Maes Dysgu ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig:

"Mae buddsoddi yn sgiliau a datblygiad eich gweithlu yn hanfodol i fynd i’r afael â'r heriau sy'n wynebu'r diwydiannau adeiladu a pheirianneg. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle i gyflogwyr ddarganfod mwy am y cymwysterau a'r hyfforddiant arbenigol sydd ar gael, archwilio opsiynau cyllido posibl a thrafod sut y gallwn gefnogi anghenion busnes penodol.

P'un a ydych chi'n dymuno datblygu gweithwyr presennol, cefnogi talent newydd neu fynd i'r afael â bylchau sgiliau yn eich tîm, rydyn ni eisiau eich helpu i nodi'r cyfleoedd cywir i adeiladu sgiliau, cryfhau eich gweithlu a sicrhau eich bod yn paratoi ar gyfer y dyfodol."

Archwilio cymwysterau lefel uwch

Un o bwyntiau ffocws allweddol y sesiynau fydd cymwysterau Tystysgrif Cenedlaethol Uwch (HNC) a Diplomau Cenedlaethol Uwch (HND) y Coleg, sydd wedi'u cynllunio i ddatblygu'r wybodaeth dechnegol a'r ddealltwriaeth ymarferol sydd eu hangen o fewn y maes.

Bydd cyflogwyr yn cael cyfle i archwilio cyfleoedd i gefnogi eu staff drwy gymwysterau y gellir eu cyrchu trwy brentisiaeth a ariennir yn llawn. Os nad ydynt am ddilyn prentisiaethau, gallant archwilio eu ffyrdd ru hun o dalu am y cyrsiau. 

Mae’r cymwysterau sydd ar gael (cymwysterau Lefel 4 a fydd yn para dwy flynedd) yn cynnwys:

HNC mewn Peirianneg Sifil: Yn cynnig gwybodaeth am egwyddorion peirianneg sifil allweddol, gan gynnwys mesur, arolygu, gosod, egwyddorion strwythurol, deunyddiau, mathemateg, technolegau adeiladu digidol a dulliau peirianneg sifil. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth o iechyd a diogelwch a'r amgylchedd ym maes adeiladu ehangach.

HNC Rheoli Adeiladu: Yn datblygu gwybodaeth am egwyddorion rheoli adeiladu, technoleg adeiladu, cymwysiadau digidol ar gyfer gwybodaeth adeiladu, rheoliadau iechyd a diogelwch, tendro a chaffael, gwyddoniaeth a deunyddiau ac egwyddorion ynni. Gall myfyrwyr symud ymlaen i’r Diploma Cenedlaethol Uwch Lefel 5 (HND) mewn Rheoli Adeiladu ar ôl cwblhau’r cwrs hwn.

HNC Mesur Meintiau: Yn darparu sylfaen mewn mesur, amcangyfrif, cynllunio costau, gweinyddu contractau, caffael, technoleg adeiladu a rheoli prosiectau adeiladu.

Trwy'r cymwysterau hyn, gall cyflogwyr fuddsoddi yn natblygiad proffesiynol eu timau wrth helpu i adeiladu'r wybodaeth a'r galluoedd sydd eu hangen i gefnogi prosiectau, gwella perfformiad a diwallu anghenion y gweithlu yn y dyfodol. 

Cyrsiau byr arbenigol sy’n cefnogi’r Porthladd Rhydd Celtaidd 

Ochr yn ochr â'r cymwysterau lefel uwch, bydd cyflogwyr hefyd yn gallu dysgu mwy am ystod gyrsiau byrion arbenigol newydd sydd wedi'u cynllunio i gefnogi anghenion y Porthladd Rhydd Celtaidd a'r diwydiannau cysylltiedig.

Wedi'u cyflwyno dros un i bedwar diwrnod yn unig, mae'r cyrsiau yn cynnig opsiwn hyfforddi i fusnesau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth dechnegol.

Y cyrsiau sydd ar gael:

Bydd y sesiynau yn rhoi cyfle i ddysgu mwy am yr opsiynau hyn ac archwilio sut y gallai hyfforddiant byrrach, wedi'i dargedu ategu cynlluniau datblygu'r gweithlu ehangach.

Anogir cyflogwyr sydd â diddordeb mewn cryfhau eu timau, archwilio cyfleoedd ariannu neu ddarganfod pa raglenni sy'n gweddu orau i'w hanghenion busnes gofrestru ar gyfer un o'r sesiynau ar-lein.

Sesiwn y bore: Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026, 8.30am-10.30am.

Sesiwn gyda’r nos: Dydd Iau 19 Tachwedd 2026, 4.30pm-5.30pm. 

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch training@gcs.ac.uk.