Skip to main content
Coleg yn cefnogi ymgyrch genedlaethol iechyd meddwl

Coleg yn cefnogi ymgyrch genedlaethol iechyd meddwl

Mae Coleg Gŵyr Abertawe - sydd wedi ennill Gwobr Efydd, Safonau Iechyd Corfforaethol yn ddiweddar - wedi arwyddo’r Adduned Cyflogwr i fynd i'r afael â gwahaniaethu sy'n wynebu pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle.

Mae’r Adduned Cyflogwr yn rhan allweddol o’r ymgyrch genedlaethol Amser i Newid, mudiad cymdeithasol sy’n tyfu ac sydd â’r nod o newid y ffordd rydym i gyd yn meddwl ac yn gweithredu ynghylch problemau iechyd meddwl.

Mae’r ystadegau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yn syfrdanol. Mae un o bob pedwar gweithiwr ym Mhrydain yn cael ei effeithio gan gyflyrau megis pryder, iselder a straen bob blwyddyn. Salwch meddwl hefyd yw’r prif achos absenoldeb yn y DU.

“Mae'n wirioneddol syfrdanol y gallai materion iechyd meddwl effeithio ar chwarter unrhyw weithlu penodol, felly rydyn ni’n teimlo, fel sefydliad gyda bron 1,000 o weithwyr, bod rhaid i ni gymryd dull gweithredu rhagweithiol tuag at godi ymwybyddiaeth a chael gwared ag unrhyw stigma a allai fod yn gysylltiedig o hyd” dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Sarah King.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn cymryd camau i gynnwys mwy o fentrau sy'n canolbwyntio ar staff yn y diwrnod gwaith. Roedden ni wedi cynnal digwyddiad iechyd a lles arbennig yn yr haf ac roedd y staff wedi mwynhau teithiau cerdded, dosbarth Pilates neu sesiwn maldod. Rydyn ni hefyd wedi lansio côr staff, rydyn ni wedi datblygu llawer o wahanol ddosbarthiadau ymarfer corff ac wedi cymryd rhan mewn ymgyrchoedd cenedlaethol fel Ar Eich Traed Brydain sy’n annog pawb i gael hwyl a sbri a chadw’n heini.

“Mae'n bwysig pwysleisio i staff bod cymorth ar gael iddyn nhw pan fydd ei angen, ac rydyn ni’n falch ein bod ni’n gallu cefnogi Amser i Newid trwy arwyddo’r Adduned Cyflogwr.”