Coleg yn croesawu cymal rhanbarthol Trin Gwallt Cystadleuaeth Sgiliau Cymru


Diweddarwyd 03/03/2015

Yn ddiweddar cynhaliwyd rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn Torri a Lliwio Uwch (trin gwallt) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Roedd cynllunwyr gwallt ar draws De Cymru wedi ymgynnull yng Nghanolfan Trin Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway i ddangos eu doniau gan ddefnyddio’r siswrn a’r chwistrell.

Ymhlith y panel o feirniaid oedd gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant gan gynnwys Mike Morgan Swinhoe o M’s International, Lara Johnson, Vicky Jones o Unique Hair Design a’r cyfarwyddwr salon a’r cyn-fyfyriwr Casey Coleman.

Y tri chystadleuydd gorau oedd Laura Atkins o ISA Training, Christopher Miller o Goleg y Cymoedd a Kayleigh Lewis o Goleg Sir Gâr. Byddan nhw a naw cystadleuydd arall nawr yn mynd drwodd i’r rownd derfynol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnwys tua 30 o gystadlaethau sgiliau lleol, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a chânt eu rhedeg gan rwydwaith penodedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn rhan o raglen Twf a Swyddi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a’i nod yw gwella proffil sgiliau yng Nghymru.

Mae’r prosiect Creu Tîm Cymru yn cyflwyno ac yn hyrwyddo Cystadlaethau Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Hybwyr Sgiliau, sef grŵp o ddarparwyr hyfforddiant o bob cwr o Gymru sydd yn ymroddedig i annog a chynorthwyo cystadleuwyr i gyflawni a llwyddo, a gaiff ei arwain a’i weinyddu gan Goleg Sir Gâr.

Tags: