Skip to main content

Coleg yn cyflwyno prentisiaeth arloesol newydd Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o gyhoeddi argaeledd llwybr prentisiaeth newydd sbon o’r enw Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Dyluniwyd y llwybr newydd hwn i ateb anghenion cyflogwyr a bylchau sgiliau yn yr ardal leol, gan roi modd i ddysgwyr ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol wrth weithio a dysgu. 

Bydd y brentisiaeth, a fydd yn cynnwys y pwnc UX neu Brofiad Defnyddiwr, yn datblygu gallu dysgwyr i ddefnyddio data i greu gwefannau a chymwysiadau hynod hygyrch iawn. Fe’i bwriedir yn bennaf i’r rhai sy’n gyfrifol am ddylunio gwefannau, cymwysiadau a mathau eraill o feddalwedd rhyngweithiol yn y gweithle.

Coleg Gŵyr Abertawe yw’r darparwr cyntaf a’r unig ddarparwr sy’n cynnig y brentisiaeth newydd hon ar Lefelau 2, 3 a 4, a achredir gan Agored Cymru ac a gynigir ar lefel gradd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

I ddathlu lansiad y brentisiaeth newydd hon, bydd digwyddiad lansio yn cael ei gynnal yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti ar ddydd Iau 23 Tachwedd, 9am – 11am.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i chi ddysgu rhagor am Ddylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn uniongyrchol gan ein harbenigwyr pwnc, a bydd lluniaeth ar gael. Gallwch ddod i’r digwyddiad mewn person, neu yn rhithwir trwy Teams.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, cliciwch yma.

I ddysgu rhagor am Ddylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, cysylltwch â hello@gcs.ac.uk neu 01792 284400.