Coleg yn lansio Academi Addysgu 2022


Diweddarwyd 01/02/2022

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad fyddai bod yn rhan o dîm arobryn, yn addysgu mewn Coleg addysg bellach sy’n flaenllaw yn y sector?

Coleg lle mae canlyniadau Safon Uwch yn perfformio’n sylweddol well na chyfartaledd cenedlaethol Cymru yn y graddau uchaf, lle mae myfyrwyr galwedigaethol yn cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau sgiliau ar draws y byd, a lle mae’r staff addysgu eu hunain wedi ennill medalau o fri?

Os felly, gallai 2022 fod yn gyfle i chi ddarganfod hyn!

Ar ôl lansiad llwyddiannus yn 2019, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ail-lansio ei Academi Addysgu bwrpasol ym mis Mawrth 2022 – dyma gyfle datblygu gwych i’r rhai sy'n ystyried gyrfa yn y sector cyffrous a chyflym hwn.

Mae’r Coleg wrthi’n ceisio recriwtio myfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar, neu weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad diwydiant, mewn meysydd sydd wedi’u nodi fel blaenoriaethau sgiliau i Gymru gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wyddoniaeth, mathemateg, troseddeg, busnes, cyfrifeg, TG, tirlunio, peirianneg ac arlwyo.

“Rydyn ni'n wirioneddol awyddus i ddatblygu talent gynhenid trwy ein hacademi addysgu bwrpasol, sydd wedi’i chynllunio’n ofalus i drochi darpar staff darlithio yn eu pwnc. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dilyn rhaglen fewnol a addysgir gan ein staff eithriadol ac sy’n seiliedig ar y rhinweddau craidd sydd eu hangen i addysgu ein cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol yn llwyddiannus a chodi safonau hyd yn oed ymhellach.”

“Mae hwn yn gyfle datblygu gwych i rywun sydd wedi graddio’n ddiweddar, rhywun sy’n cwblhau cymhwyster ôl-raddedig, neu rywun sydd wedi gweithio mewn diwydiant ac sydd am gael pluen arall yn ei het." - Lucy Hartnoll, Deon Cyfadran ac Arweinydd Safon Uwch, Coleg Gŵyr Abertawe

Bydd cyfranogwyr yr Academi Addysgu yn cael eu mentora’n agos gan arbenigwyr pwnc trwy gydol y broses, a byddant yn cwblhau unedau Agored Lefel 4 yn ogystal â mynychu tiwtorial am awr yr wythnos, arsylwi addysgu yn eu dewis faes a hyfforddi o amgylch Bagloriaeth Cymru.

Pan fydd rhaglen 15 wythnos yr Academi Addysgu yn dod i ben, gallai dysgwyr fod yn gymwys i symud ymlaen i gymhwyster TAR.

Dwi wrth fy modd bod Coleg Gŵyr Abertawe yn gallu codi cwr y llen ar fanteision niferus addysgu ym maes addysg bellach. Cewch gyfle i addysgu sesiynau academaidd a galwedigaethol sy’n gallu helpu i lunio dyfodol pobl ifanc ac oedolion sy’n dychwelyd i fyd addysg. Mae’n yrfa gyda phwrpas go iawn – dwi’n ei hargymell yn fawr.” - Nikki Neale, Cyfarwyddwr Ansawdd a Chwricwlwm, Coleg Gŵyr Abertawe

Bydd yr Academi Addysgu gyntaf yn dechrau ym mis Mawrth 2022 a bydd yn rhedeg am 15 wythnos. 

I wneud cais, ewch i www.gcs.ac.uk/cy/jobs

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Leanne Howe, Rheolwr Dysgu, Addysgu a Datblygu -  leanne.howe@gcs.ac.uk

Gwybodaeth ychwanegol:

Beth yw’r Academi Addysgu?
Rhaglen hyfforddi athrawon gychwynnol yw Academi Addysgu Coleg Gŵyr Abertawe sy’n bwriadu rhoi’r sgiliau a’r profiad sylfaenol i chi er mwyn symud ymlaen i rôl ddarlithio.

Bydd ein staff profiadol yn eich hyfforddi a’ch cefnogi a byddwch yn cael gwybodaeth ac ymarfer rhagorol i addysgu yn y sector addysg bellach. Byddwch yn cael hyfforddiant ar sut i greu adnoddau cynhwysol ar gyfer addysgu, gan ddefnyddio’r ymchwil addysgegol fwyaf arloesol a chyfredol, sut i roi adborth datblygiadol ac ystyrlon i ddysgwyr, sut i gynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu, yn ogystal â dysgu am systemau’r Coleg sy’n cael eu defnyddio ar gyfer profion diagnostig, gosod targedau a hyfforddiant bugeiliol.

Beth yw’r ymrwymiadau amser gofynnol?
Byddwch yn mynychu sesiwn dwy awr bob nos Fercher am 15 wythnos a byddwch yn astudio ar gyfer cymwysterau Agored Lefel 4. Yn ogystal, cewch diwtorial un awr gyda mentor addysgu a rhwng pedair a chwe awr o brofiad addysgu yr wythnos, a fydd yn cynnwys arsylwadau ac addysgu tîm.

Trefnir y profiad tiwtorial ac addysgu ymarferol o amgylch eich ymrwymiadau cyfredol a gellid ei wneud dros ddiwrnod neu sawl diwrnod.

Pa gymwysterau/brofiad sydd eu hangen arnaf?
I hyfforddi yn ein meysydd Safon Uwch byddwch wedi graddio yn y pwnc perthnasol gyda gradd anrhydedd 2.2 o leiaf.

Ar gyfer ein meysydd galwedigaethol bydd angen o leiaf gymhwyster Lefel 4 arnoch yn y maes neu wedi cael profiad diwydiannol/proffesiynol sylweddol yn eich maes ac yn meddu ar gymwysterau proffesiynol perthnasol.

O ran sgiliau personol, rydym yn chwilio am bobl sydd â brwdfrydedd ac angerdd am eu disgyblaeth yn ogystal â chwaraewyr tîm da a menter.

Beth yw’r profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth?
Byddwch yn treulio amser gyda thîm addysgu dynodedig a byddwch yn cynnal arsylwadau yn seiliedig ar y theori a’r addysgeg y rhoddwyd sylw iddynt yn ystod eich sesiynau wedi’u haddysgu a’ch tiwtorial.

Wrth i chi fagu hyder, byddwch yn gallu addysgu tîm neu gyflwyno sesiynau meicro-addysgu ym mhresenoldeb darlithydd yr ystafell ddosbarth.

Beth yw’r manteision i mi?
Os byddwch yn ennill lle yn ein Hacademi Addysgu byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau addysgu ac arweinwyr y cwricwlwm.

Gallai dilyniant llwyddiannus trwy’r rhaglen arwain at oriau addysgu â thâl pe byddent ar gael (yn amodol ar wiriadau DBS) a swydd addysgu barhaol yn y Coleg (yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus).

Gall cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus arwain at ddilyniant i’n rhaglen TAR, a allai gael ei hariannu’n rhannol neu’n llawn gan y Coleg, yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.

Sut ydw i’n gwneud cais?
Ewch i www.gcs.ac.uk/cy/jobs lle byddwch yn gweld yr Academi Addysgu yn cael ei hysbysebu. Llenwch y ffurflen gais ac, yn yr adran gwybodaeth ychwanegol, dywedwch wrthym - mewn dim mwy na 250 gair - pam rydych yn teimlo y dylech gael eich ystyried ar gyfer y rhaglen hon.

Oes cost?
Mae’r rhaglen yn rhad ac am ddim ar wahân i gost gychwynnol o £40 i dalu am wiriadau DBS.

Dyddiad cau: Dydd Llun 28 Chwefror
Cyfweliadau cychwynnol: Dydd Mercher 16 Chwefror
Dyddiad dechrau i ymgeiswyr llwyddiannus: Dydd Mercher 2 Mawrth

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Leanne Howe, Rheolwr Dysgu, Addysgu a Datblygu leanne.howe@gcs.ac.uk 

Tags: