Skip to main content
Coleg yn lansio prosiect codi sbwriel

Coleg yn lansio prosiect codi sbwriel

Mae staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn torchi eu llewys ac yn gwisgo menig a siacedi gwelededd uchel wrth iddynt ddechrau menter newydd i godi sbwriel o amgylch campws Gorseinon.

Mae’r prosiect cymunedol hwn yn cael ei lywio gan y Cyngh Kelly Roberts, cyn-fyfyriwr yn y Coleg, a’r Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol Jenny Hill.

“Mae brwdfrydedd staff a myfyrwyr y Coleg a’r ffordd maen nhw wedi ymroi’n llwyr i’r fenter newydd hon wedi creu argraff arna i,” dywedodd y Cyngh Roberts.

Bydd y gweithgaredd codi sbwriel dan orcuchwyliaeth yn cychwyn yr wythnos yn dechrau 15 Ionawr a bydd pob grŵp tiwtor yn  treulio awr yn patrolio’r ardaloedd o amgylch Heol Belgrave.

“Dyma gyfle gwych i’n myfyrwyr weithredu’n gadarnhaol ar fater hynod bwysig – gofalu am yr amgylchedd,” ychwanegodd Jenny. “Yn ogystal â rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymuned leol, maen nhw hefyd yn gallu mabwysiadu sgiliau meddal allweddol fel dibynadwyedd ac ymrwymiad, sgiliau sydd mor bwysig i’w dangos wrth wneud cais am le mewn prifysgol neu swydd. Ac wrth gwrs, rhaid cyfaddef bod cadw’r ardal leol yn daclus a magu perthnasau da gyda’n cymdogion yn codi ysbryd pobl.”

“Mae sbwriel a chadw ein dinas yn daclus yn gyfrifoldeb arnon ni i gyd, ac nid ar y Cyngor yn unig,” dywedodd y Cyngh Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol. “Dwi wrth fy modd bod Coleg Gŵyr Abertawe a’i fyfyrwyr yn gweithredu’n gadarnhaol i helpu i gadw eu cymuned yn lân.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cyflwyno swyddogion gorfodi sbwriel i helpu i fynd i’r afael â phobl hunanol sy’n taflu sbwriel ar y llawr ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol. Rydyn ni’n awyddus i bobl wneud y peth iawn trwy ddefnyddio biniau sbwriel. Bydd hyn yn golygu na fydd rhaid i ni roi cosbau penodedig a bydd gennym ddinas lân o ganlyniad.”