Skip to main content
Coleg yn penodi Paul Kift fel Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes

Coleg yn penodi Paul Kift fel Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes

I ddechrau bydd Paul yn canolbwyntio ar ddatblygiad strategol Hyfforddiant GCS – braich hyfforddi busnes Coleg Gŵyr Abertawe, a darpariaeth prentisiaethau ar draws y Coleg. Bydd Paul hefyd yn arwain adrannau Cyllid Allanol a Rhyngwladol y Coleg.

Yn gyn-fyfyriwr ar gampws Gorseinon, aeth Paul ymlaen i wneud swyddi uwch reoli gan weithredu ar draws y DU, Ewrop a Tsieina. Yn 2015, cafodd Paul ei ddewis fel un o’r “dynion busnes a phroffesiynol ifanc mwyaf llwyddiannus yng Nghymru” ar ôl cael ei gynnwys ar restr ‘35 o dan 35’ WalesOnline. Roedd hefyd wedi cyrraedd Rownd Derfynol Cyfarwyddwr y Flwyddyn Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru.

“Dwi wrth fy modd i gael cyfle i helpu i lunio’r agenda sgiliau ar gyfer Coleg a dinas dwi mor hoff ohonyn nhw,” dywedodd Paul. “Gyda’r prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r Morlyn Llanw yn nes at gael eu cyflawni a mwy o hyder busnes yn cael ei weld ar draws y ddinas, mae’n fwy hanfodol nag erioed i ddatblygu sgiliau arloesol wedi’u teilwra. Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda chyflogwyr a phartneriaid, gartref a dramor, i feithrin doniau sy’n rhoi modd i’r ardal ffynnu.”

Mae Paul wedi casglu tîm nodedig o arbenigwyr i helpu gyda’r nodau hyn.

Bydd Tom Crick MBE, Athro Cyfrifiadureg a Pholisi Cyhoeddus, yn arwain ymdrech y Coleg i ddatblygu sgiliau digidol ar gyfer cyflogwyr ar draws yr ardal. Ar hyn o bryd, mae’r Athro Crick yn ymgynghorydd arbenigol i Lywodraeth Cymru a Chadeirydd y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg a gyhoeddwyd yn ddiweddar, buddsoddiad gwerth £4m gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Dŵr Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Bydd Ioan Jenkins, Cyfarwyddwr Datblygu yn Tidal Lagoon Power yn helpu i ddatblygu darpariaeth ynni’r Coleg ond bydd hefyd yn edrych ar fylchau sgiliau crefft eraill, gan roi modd i’r Coleg ddatblygu talentau i gefnogi’r Morlyn Llanw a phrosiectau arwyddocaol eraill yn y DU. Mae gan Ioan gefndir mewn ynni adnewyddadwy ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ynni’r Môr Llywodraeth Cymru; mae hefyd yn arwain y grŵp annibynnol Grŵp Cynghori ar Ddiwydiant Llanw Cymru.

Bydd Chris Nott OBE yn arwain gwaith datblygu gwasanaethau ariannol a phroffesiynol a chyrsiau busnes y Coleg. Chris yw Cadeirydd panel sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn Llysgennad Busnes Tywysog Cymru dros Gymru ac yn sylfaenydd dau gwmni cyfreithiol, gan gynnwys Capital Law lle mae’n Uwch-bartner.

Mae Rachel Searle wedi cael ei phenodi’n Bennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith newydd y Coleg, ar ôl gweithio i Ymddiriedolaeth Datblygu’r Gweithlu lle roedd yn Gyfarwyddwr ac Arweinydd Strategol Cyngor Sgiliau Sector Sgiliau Iechyd a Sgiliau Cyfiawnder Cymru.

Bydd Jayne Brewer yn ymuno â'r Coleg fel Pennaeth Datblygu Cyflogwyr ym Mawrth 2018.  Mae'n gweithio fel Dirprwy Gyfarwyddwr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar hyn o bryd.

“Mae cyfnod cyffrous o’n blaenau ni a dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda Paul a’i dîm i ddatblygu ymhellach bortffolio a phroffil cynyddol Coleg Gŵyr Abertawe,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones.