Coleg yn rhoi nwyddau i fanciau bwyd lleol


Diweddarwyd 04/05/2020

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi helpu rhoi hwb i stociau banciau bwyd drwy gyfrannu nwyddau o’u ffreuturau nad oeddent yn cael eu defnyddio.

Gyda’r campysau ar gau ar hyn o bryd oherwydd y Coronafeirws, mae staff y Coleg wedi bod yn rhoi eitemau megis creision, losin a diodydd i fanciau bwyd yn Abertawe, Eglwys Sant Steffan ac Eglwys LifePoint yn yr Uplands. 

“Rydym yn falch iawn o allu helpu a chefnogi ein cymuned leol yn y ffordd orau bosib yn ystod y cyfnod hwn,” meddai Christina Harry, Rheolwr Ystadau.

Roedd y banciau bwyd yn hynod ddiolchgar am y rhoddion.

Tags: