Skip to main content
Cydweithrediad AB/AU yn trawsnewid ystafell ddosbarth

Cydweithrediad AB/AU yn trawsnewid ystafell ddosbarth

Diolch i gais llwyddiannus i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), mae ystafell ddosbarth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael ei thrawsnewid yn lle dysgu gweithredol gyda chyfleusterau fideogynadledda, byrddau rhyngweithiol a chlustffonau VR.

Arweiniodd Prifysgol Abertawe ar y cais – ‘Growing Comms’ sef gwella cydweithredu AU/AB mewn arloesi ac ymgysylltu - a bydd nawr yn gweithio mewn partneriaeth â ni, CCNPT a Choleg Sir Benfro i ddarparu dysgu gweithredol a chydweithredol ar gyfer myfyrwyr.

Bydd C10, a leolir ychydig y tu hwnt i’r llyfrgell, yn galluogi dysgu mewn grwpiau gyda chyfleusterau newydd sbon gan gynnwys sgrin ryngweithiol fawr y gallwch ei haddasu i’w gwneud yn wastad fel bwrdd, meinciau â socedi pŵer a Wi-Fi.

“Mae cwblhau’r buddsoddiad yn C10 yn ddatblygiad cyffrous ac yn garreg filltir bwysig yn ein prosiect - mae’n amgylchedd dysgu hardd,” dywedodd Noémi Hilaireau, Rheolwr Prosiect ‘Growing Comms’. “Bydd defnyddio llwyfannau cyfathrebu cydweithredol y genhedlaeth nesaf mewn lleoedd cysylltiedig yn cysylltu AB, AU a diwydiant ar draws yr ardal ac yn trawsnewid sut rydyn ni’n dysgu ac yn gweithio gyda’n gilydd.”

“Mae hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ar draws y sectorau AU ac AB,” meddai rheolwr y prosiect, Kate Pearce. “Bydd yn galluogi Coleg Gŵyr Abertawe i weithio’n agos gyda sefydliadau addysgol a chyflogwyr eraill a bydd yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer prosiect Sgiliau’r Dyfodol - rhaglen o ddosbarthiadau meistr ar draws ystod o feysydd pwnc a fydd yn defnyddio technolegau cydweithredol.

Mae ailddatblygiad C10 eisoes wedi’i gydnabod gan JISC fel un sy’n blaenllaw yn y sector ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei weld yn cael ei ddefnyddio gan ein dysgwyr”.

Lluniau: JISC