Skip to main content
Cyfleuster newydd sbon i fyfyrwyr wedi’i lansio ar Gampws Gorseinon

Cyfleuster newydd sbon i fyfyrwyr wedi’i lansio ar Gampws Gorseinon

O ganlyniad i fuddsoddiad gwerth £2m gan Goleg Gŵyr Abertawe, yn fuan bydd myfyrwyr ar Gampws Gorseinon yn gallu cymryd hoe rhwng dosbarthiadau mewn lle cymdeithasol newydd sbon – Y Cwtsh Coffi.

Mae Cwtsh Coffi Gorseinon, a agorwyd yn swyddogol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, yn estyniad i’r bloc ffreutur ar y llawr cyntaf.

Mae’n cynnwys siop goffi Costa, ac mae’n cynnig lle golau ac awyrog i fyfyrwyr ymlacio gyda’i gilydd a chael rhywbeth i fwyta.

“Rydyn ni’n falch iawn bod ein myfyrwyr bellach yn gallu mwynhau’r lle cymdeithasol newydd a gwell rydyn ni wedi’i greu i wneud eu hamser yn y Coleg mor bleserus a chyfforddus ag sy’n bosibl,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Rydyn ni’n credu bod ein cyfleusterau newydd – heb anghofio’r gwaith ailddatblygu gwerth £4m ar Gampws Tycoch a gafodd ei lansio eleni – yn adlewyrchu nod y Coleg i roi’r profiad gorau oll i’r myfyrwyr yn ystod eu cyfnod gyda ni.”

“I nifer o fyfyrwyr, mae cael mynediad i le gwaith gyda digon o seddau a Wi-Fi dibynadwy yn gallu gwneud byd o wahaniaeth o ran eu helpu i gael cymwysterau gwerthfawr a gwireddu eu potensial,” dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns. “Wrth i Goleg Gŵyr Abertawe fynd o nerth i nerth, bydd llywodraeth y DU yn parhau i sicrhau bod colegau fel y rhain yn gallu rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl er mwyn llwyddo, yn ogystal â sicrhau swyddi a denu buddsoddiad gwerthfawr ym mhob rhan o Gymru.”

Mae Campws Gorseinon yn gartref i fyfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol a Safon Uwch – mewn gwirionedd mae ganddo’r cohort Safon Uwch mwyaf o blith unrhyw sefydliad addysgol yng Nghymru. Mae hefyd yn gartref i ddarpariaeth Ryngwladol y Coleg sy’n parhau i dyfu.