Skip to main content

Cyhoeddi myfyrwyr ysgoloriaeth chwaraeon 2015 / 2016

Mae saith myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau chwaraeon ar gyfer y flwyddyn academaidd 2015/2016.

Y myfyrwyr yw:

  • Rygbi - James Ratti, sy’n astudio Safon Uwch mewn Mathemateg, Addysg Gorfforol ac Economeg
  • Pêl-rwyd - Paige Murphy, sy’n astudio Safon Uwch mewn Mathemateg, Cemeg a Bioleg
  • Hoci - Sarah-Jayne Thorburn, sy’n astudio Safon Uwch mewn Mathemateg, Addysg Gorfforol, Ffrangeg ac Economeg, a Rhian Lewis, sy’n astudio Safon Uwch mewn Hanes, Addysg Gorfforol a Llenyddiaeth Saesneg
  • Criced - Tomas Davies, sy'n astudio Safon Uwch Bioleg, Cemeg a Mathemateg, a Jack Todd, sy'n dilyn cwrs Lefel 3 BTEC Diploma mewn Chwaraeon
  • Pêl-droed - Luke Harries, sy’n astudio BTEC Diploma Lefel 3 mewn Chwaraeon

“Mae ein rhaglen ysgoloriaeth chwaraeon yn rhoi cymorth ariannol a chyfannol i fyfyrwyr sydd wedi dangos gallu eithriadol yn un o gampau ein hacademïau dynodedig,” dywedodd y cydlynydd  Marc O’Kelly. “Yn gyfnewid am hyn, rydyn ni’n disgwyl i’n myfyrwyr ysgoloriaeth weithredu fel ‘modelau rôl’ ymysg eu cyfoedion a chefnogi hyfforddwyr yr academïau i ddarparu rhaglen chwaraeon o ansawdd eithriadol.”

Llun: Nikkila Thomas