Cynfyfyriwr yn arwyddo i Ddinas Caerdydd


Diweddarwyd 13/02/2019

Mae cynddisgybl o Ysgol Tre-gŵyr a chynfyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi arwyddo i dîm Dinas Caerdydd.

Astudioodd Danny Williams gwrs Lefel 3 Hyfforddi a Pherfformio Pêl Droed (Diploma mewn chwaraeon) yn y Coleg ac roedd yn aelod dawnus o’r Academi Bêl-droed. Mae wedi arwyddo cytundeb proffesiynol am 2.5 o flynyddoedd gyda’r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.

“Mae hwn yn gyflawniad gwych i Danny ac rydyn ni i gyd yn falch iawn ohono,” meddai Marcus Westmoreland, Rheolwr Maes Dysgu Chwaraeon. “Roedd Danny yn gaffaeliad enfawr i Dîm yr Academi Bêl-droed ac yn berfformiwr rhagorol yn gyson. Roedd ei gyd-aelodau’n ei barchu’n fawr.”

“Yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y Coleg, roedd Danny yn rhan annatod o’r tîm a enillodd gystadleuaeth 7 bob ochr Colegau Cenedlaethol Cymru, roedd hefyd yn aelod rheolaidd o’r tîm cyntaf, sy’n chwarae yn uwch-gyngrhair ECFA. Chwaraeodd rhan flaenllaw hefyd yn helpu’r Coleg i gyrraedd rowndiau terfynol cystadlaethau cenedlaethol Uwch Gwpan Prydain a Chwpan Cenedlaethol Cymru, gan ennill yr olaf ar ddau achlysur, gyda Danny yn sgorio deirgwaith yn olynol yn nigwyddiad 2008.”

Yn 16 oed yn unig, teithiodd Danny i Rufain i gynrychioli Tîm Colegau Cymru Dan 18. Creodd argraff dda ar y daith a chafodd ei ddewis eto’r flwyddyn ganlynol.

“Hoffwn ddiolch i bawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe am y gefnogaeth a’r arweiniad y derbyniais yn ddyddiol, yn ystod fy nghyfnod yno,” meddai Danny. “Bydd atgofion y rhaglen bêl droed, lle y treuliais dair blynedd anghredadwy, yn aros gyda mi am amser hir iawn. Roedd fy hyfforddwyr/darlithwyr yn ardderchog, yn enwedig Andrew Stokes a Rhichard South a fuddsoddwyd llawer o amser mewn i’m datblygiad, ar y cae ac oddi arno.”

Tags: