Digwyddiad gwallt a harddwch yn ysbrydoli gweithwyr proffesiynol y diwydiant


Diweddarwyd 05/05/2015

Yn ddiweddar roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal noson i ddathlu ac ysbrydoli talent Cymru ar draws y sector trin gwallt a harddwch.

Roedd staff, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol lleol o’r byd diwydiant yn bresennol yn y dosbarth meistr trin gwallt a choluro ym Mhlas Sgeti. Roedden nhw wrth eu boddau gyda’r arddangosiadau ymarferol gan gyfarwyddwr y salon (a chyn-fyfyriwr) Casey Coleman a Chris Howells, artist coluro rhyngwladol i Laura Mercier.

“Roedd hwn yn gyfle i ddangos y talentau gorau o Gymru ar waith,” dywedodd Rheolwr y Maes Dysgu Bernie Wilkes. “Roedd yn ddigwyddiad pleserus dros ben a ysbrydolodd bawb yna. Roedd hefyd yn gyfle i ddangos sut mae ennill cymwysterau yn y sector hwn yn gallu arwain at yrfaoedd cyffrous sy’n mynd â chi o amgylch y byd."

"Mae Casey yn enghraifft wych o hyn – mae newydd ddychwelyd o Awstralia ac mae hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn Pro Hair Live, sy’n golygu y gallai gael ei goroni yn Estyniadydd Avant Garde y flwyddyn!"

Lluniau: Chris Costello

Tags: