Skip to main content

Diweddariad gan y Pennaeth, Mark Jones (21 Ionawr)

Mae nifer o negeseuon gwahanol iawn yn y cyfryngau ar hyn o bryd ynghylch cyfyngiadau covid sy’n gallu bod yn ddryslyd iawn – ac felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol creu darlun cliriach o sefyllfa’r Coleg.  

Ar hyn o bryd, does dim unrhyw gynigion ar gyfer unrhyw newidiadau yn y Coleg neu yn wir o fewn unrhyw sefydliad addysg yng Nghymru. Yn Abertawe, mae’r risg o haint yn parhau i fod yn uchel ac mae angen i ni i gyd barhau i fod yn wyliadwrus.  

Os bydd unrhyw newidiadau dros yr wythnosau nesaf, byddwn ni’n gwneud pawb yn ymwybodol o beth mae hyn yn ei olygu cyn gynted ag y gallwn ni. Fodd bynnag, hyd yn oed os bydd newidiadau o fewn y cyfyngiadau ehangach, dydyn ni ddim yn credu y byddan nhw’n arwain at lawer o newidiadau o ran ein gweithrediadau dyddiol. 

Yn y cyfamser, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn parhau i ddilyn ein mesurau presennol i sicrhau diogelwch pawb:

  • Parhewch i wisgo eich gorchudd wyneb ym mhob man yn y Coleg, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth Parhewch i olchi a diheintio’ch dwylo’n rheolaidd
  • Parhewch i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl eraill
  • Parhewch i ddilyn y model grŵp cyswllt sydd ar waith ar hyn o bryd i’r holl fyfyrwyr
  • Parhewch i ddefnyddio dyfeisiau llif unffordd deirgwaith yr wythnos yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru
  • Peidiwch â dod i’r Coleg os oes gennych unrhyw symptomau covid a threfnwch brawf PCR cyn gynted ag sy’n bosibl.

Rydyn ni’n deall y gall deimlo’n rhwystredig nad yw bywyd yn ôl i normal eto, ond rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd a gobeithio, cyn bo hir, y bydd pethau yn dechrau symud yn y cyfeiriad hwnnw.   

Cymerwch ofal   
Mark Jones, Pennaeth