Skip to main content
Enillwyr AD ar y llwyfan

Tîm Adnoddau Dynol y Coleg yn cipio tair gwobr fawr

Mae tîm Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill tair gwobr yn nigwyddiad nodedig Gwobrau AD Cymru 2022.

Mewn seremoni fawreddog yng Nghaerdydd ar 8 Gorffennaf, enillodd y tîm y tlysau canlynol:

Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau
Menter AD Orau
Seren AD (Sarah King)

Roedd y tîm hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:

Ymateb Gorau i Covid
Cyflogwr o Ddewis
Gweithiwr Proffesiynol Rhagorol AD – Sarah King
Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn – Sarah King
Tîm AD y Flwyddyn

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cynifer o wobrau sy’n adlewyrchu ein hethos, o sicrhau bod ein staff wedi cael eu cefnogi’n llawn yn ystod y pandemig byd-eang ac ymgorffori cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar fywyd y Coleg,” meddai Sarah. “Ac mae’n anrhydedd wych ennill tair gwobr mewn cystadleuaeth mor gryf.

“Pan oedden ni’n coladu’r wybodaeth i’w chyflwyno i banel beirniaid Gwobrau AD Cymru, yr hyn wnaeth fy nharo i oedd faint o gyflawniadau gwych rydyn ni wedi’u gweld yn y Coleg yn y blynyddoedd diwethaf, fel lansio Wythnos Enfys, dod y sefydliad addysg bellach cyntaf yng Nghymru i ennill statws Coleg Noddfa a’r adborth gwych a gawson ni gan staff o ran lles a chymorth ar ôl Covid."

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae tîm Adnoddau Dynol y Coleg wedi cyflawni nifer o gerrig milltir trawiadol, fel ennill safonau iechyd corfforaethol Efydd, Arian ac Aur.

Mae darpariaeth lles helaeth wedi cael ei chyflwyno, gyda staff yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gweithdai a sesiynau gwybodaeth am ddim sy’n hybu iechyd corfforol a meddyliol.

Mae’r Coleg yn cynnal diwrnod iechyd a lles blynyddol ac mae seremoni wobrwyo gwasanaeth hir hefyd wedi cael ei chyflwyno i gydnabod a diolch i staff am eu teyrngarwch.

Mae mentrau diweddar eraill yn cynnwys diwrnodau ymwybyddiaeth am y menopos, materion LGBTQ+ a lles ariannol.

Lluniau: Enillwyr AD ar y llwyfan