Skip to main content
Adeilad y Ganolfan Chwaraeon

Gweithgareddau a defnydd o gyfleusterau am ddim yng Nghanolfan Chwaraeon y Coleg

Mae Canolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe yn agor ei drysau i’r gymuned leol dros yr wythnosau nesaf.

Gyda’r hwyr ac ar benwythnosau, bydd ymwelwyr â’r Ganolfan Chwaraeon yn gallu galw heibio a defnyddio rhai o’r cyfleusterau yn rhad ac am ddim.

O ddydd Llun i ddydd Gwener (4pm – 9pm) bydd diodydd poeth, bisgedi a phapurau newydd ar gael yn ogystal â gweithgareddau fel pŵl, tennis bwrdd, a gemau bwrdd.

Bydd rhai darllediadau chwaraeon byw ar gael, yn ogystal â’r cyfle i gymryd rhan mewn cwisiau a chelf/crefft.

Ar nos Sul rhwng 6pm a 9pm, byddwch chi’n gallu defnyddio campfa’r Ganolfan yn rhad ac am ddim.

Bydd mynediad ar gael i gawodydd y Ganolfan Chwaraeon hefyd i unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad neu weithgaredd yn ystod yr amser hwn.

Yn ogystal, dros hanner tymor mis Chwefror, bydd sesiynau Te a Chlonc rhwng 7am a 9am ac yna sesiynau badminton, pêl-droed wrth gerdded, pêl-fasged a dodgeball yn y prynhawn (amserau isod*).

Sylwch fod rhaid i bobl ifanc 16 oed ac iau fod yng nghwmni oedolyn ar gyfer pob gweithgaredd.

I wybod rhagor, ffoniwch 01792 284088.

*Dydd Llun 2pm - 5.30pm
*Dydd Mawrth 2pm - 7pm
*Dydd Mercher 2pm - 5pm
*Dydd Iau 2pm - 7pm
*Dydd Gwener 2pm - 6pm