Skip to main content
Llwyddiant ysgubol i Goleg Gŵyr Abertawe yng nghystadlaethau Worldskills

Llwyddiant ysgubol i Goleg Gŵyr Abertawe yng nghystadlaethau Worldskills

Mae prentisiaid ifanc a myfyrwyr galwedigaethol gorau’r DU wedi cael eu henwi yn Rhif 1 y genedl mewn seremoni ddisglair yn Birmingham.

WorldSkills UK LIVE, a ddenodd fwy nag 80,000 o bobl ifanc i’r NEC, oedd cyd-destun Rownd Derfynol Genedlaethol Cystadlaethau WorldSkills UK a welodd fwy na 500 o bobl ifanc yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau gwahanol. 

Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau WorldSkills UK yn rhoi i bobl ifanc y sgiliau o’r radd flaenaf sydd eu hangen i helpu busnesau’r DU i gystadlu’n well yn fyd-eang.  

Ymhlith y rhai sydd wedi ennill medalau mae tri myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe:

Medal aur – Catherine Jones (Gwyddor Fforensig)
Medal aur – Liam Hughes (Electroneg Ddiwydiannol)
Medal arian – Rhys Watts (Electroneg Ddiwydiannol)

Canmoliaeth uchel – Ben Lewis (Electroneg Ddiwydiannol)

“Mae hyn yn foment fydd yn newid bywyd y bobl ifanc hyn,” meddai Ben Blackledge, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK. “Maen nhw eisoes wedi ennill cystadlaethau rhanbarthol a nawr y Rownd Derfynol Genedlaethol - nhw yw’r genhedlaeth newydd o anelwyr uchel fydd yn rhoi mantais gystadleuol i gyflogwyr y DU. Rydyn ni mor falch o bob un ohonyn nhw – does dim modd gwella safon y cystadlu – mae’n wych.”

“Mae’r canlyniadau hyn yn anhygoel o ystyried bod gyda ni nifer gymharol fach o fyfyrwyr yn cymryd rhan,” meddai Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig, Steve Williams. “Mae ennill y medalau hyn yn golygu ein bod ni ymhlith y 10 uchaf o golegau cystadleuol yn y DU - rydyn ni’n dod yn seithfed yn gyffredinol ac mae hyn yn gyflawniad gwych. Mae’r dysgwyr Electroneg Ddiwydiannol bellach yn edrych ymlaen yn fawr at 2 Rhagfyr pan fyddan nhw’n cael gwybod a ydyn nhw wedi gwneud digon i fod yn rhan o garfan y DU ac yn mynd i Rownd Derfynol WorldSkills yn Shanghai yn 2021. ”

Yn y cyfamser, roedd digwyddiad NEC yn benllanw taith WorldSkills i Catherine Jones gan nad oes llwyfan Ewropeaidd/Byd ar gyfer ei disgyblaeth benodol sef Gwyddoniaeth Fforensig.

 “Rydyn ni i gyd yn wirioneddol falch o Catherine am ddod â’r fedal Aur adref nid yn unig i’r Coleg ond i Gymru gyfan,” ychwanegodd y darlithydd Amy Herbert.

Rhaid rhoi sylw arbennig hefyd i’r myfyrwyr canlynol a gymerodd ran yn WorldSkills UK Live ac a oedd yn llysgenhadon gwych i Goleg Gŵr Abertawe trwy gydol y digwyddiad - Nathan Evans (Electroneg Ddiwydiannol), a Reuben Johnston a Paulina Skoczek (Gwasanaethau Bwyty).

DIWEDD

Mae WorldSkills UK LIVE yn cael ei ystyried fel y digwyddiad gorau o’i fath yn Ewrop, ac mae’n llawn anerchiadau ysgogol, arddangosfeydd ymarferol, gweithgareddau rhannu ffeithiau hynod ddiddorol a sesiynau holi ac ateb gyda chyflogwyr blaenllaw ac adloniant ysblennydd.

Roedd gan ddwsinau o brif gyflogwyr, sefydliadau ac addysgwyr y DU bresenoldeb proffil uchel yn LIVE yn eu hymgais i recriwtio’r genhedlaeth nesaf o anelwyr uchel. Yn eu plith roedd BAE Systems, Toyota Manufacturing UK, Health Education England, Lloyds Banking Group, y lluoedd arfog, Prifysgol Middlesex, Coleg Caerlŷr a Choleg Technoleg Dudley sy’n hysbysebu dros 20,000 o gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth.