Skip to main content
Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau arholiadau gwych ar gyfer 2021

Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau arholiadau gwych ar gyfer 2021

Ar ddiwedd blwyddyn academaidd heriol arall, mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau gwych.

Y gyfradd pasio cyffredinol ar gyfer Safon Uwch oedd 99%, a derbyniwyd 1927 o gofrestriadau unigol ar gyfer sefyll arholiadau. Roedd 43% o’r graddau hyn yn A*-A, roedd 70% yn A*-B ac roedd 88% yn A*-C.

Y gyfradd pasio cyffredinol ar gyfer Safon UG oedd 95%, gyda 76% o’r graddau hyn yn A - C, ac roedd 56% yn raddau A - B. Derbyniwyd 1927 o gofrestriadau unigol ar gyfer sefyll arholiadau Safon UG.

Mae canlyniadau galwedigaethol y Coleg unwaith eto yn gryf eleni, gyda Diplomâu Estynedig Lefel 3 yn cyflawni cyfradd basio o 96%.

Bydd tua 1000 o’n myfyrwyr yn awr yn symud ymlaen i’r brifysgol, gan gynnwys 6 myfyriwr sydd wedi ennill graddau gystal fel eu bont yn astudio yn Rhydychen a Chaergrawnt.

"Rydyn ni’n hapus iawn gyda’n canlyniadau, sy’n adlewyrchiad o ymroddiad ac ymrwymiad pob un o’n myfyrwyr. Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn,” meddai’r Pennaeth, Mark Jones.

“Mae’r pwysau sydd wedi bod ar ysgwyddau pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn wedi bod yn anferth, felly gobeithiaf gallant ymlacio ac edrych ymlaen at gam nesaf eu taith, boed hynny’n sicrhau lle i astudio yn y brifysgol, cyflogaeth, prentisiaeth neu gwrs uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Dylen nhw i gyd deimlo yn falch iawn ohonyn nhw eu hunain.

“Hefyd, yn amlwg, rhaid diolch i’n staff ardderchog, sydd wedi gweithio’n galed iawn i ddelio â phrosesau a gweithdrefnau yr oedd angen eu rhoi ar waith eleni.”

Roedd y Coleg yn hapus iawn o gael cwmni’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, yn ystod diwrnod canlyniadau. Yn ystod yr ymweliad, bu’r Gweinidog yn sgwrsio â staff ac yn llongyfarch myfyrwyr ar eu llwyddiant.

Ymhlith y myfyrwyr a gyfarfu â’r Gweinidog roedd:

Edan Reid, sy’n mynd i Brifysgol Caergrawnt i astudio meddygaeth filfeddygol.

Ellen Jones, sy’n mynd i Brifysgol Rhydychen i astudio seicoleg arbrofol.

Sam Dinnage, a gafodd Ragorieth yn ei gwrs Diploma Perfformiad Lefel 4. Mae e bellach ar ei ffordd i Gonservatoire Brenhinol Birmingham.

Leon Roberts ac Aidan Nicholas, sydd ar eu ffordd i Brifysgol Durham i astudio ffiseg.

Nia McFenton, a gyflawnodd Ragoriaeth Driphlyg yn ei Diploma Estynedig mewn Busnes.

Bethany Baljak, sydd wedi derbyn lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio ieithyddiaeth.

Mari Wyn James, sy’n mynd i Brifysgol Queen’s yn Belfast i astudio meddygaeth

Lluniau: Adrian White