Skip to main content
Cydweithwyr yn eistedd gyda’i gilydd

Rhaglen gyflogadwyedd yn Abertawe yn mwynhau dathliad dwbl

Mae rhaglen arloesol o gymorth cyflogadwyedd sy’n cael ei rhedeg gan Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu dwy garreg filltir arwyddocaol – mae newydd gynnig cymorth i’w 10,000fed cleient ac mae’n dathlu ei phumed blwyddyn lwyddiannus o weithredu.

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn darparu cyngor a chymorth cyflogadwyedd wedi’u teilwra i bobl ddi-waith a chyflogedig yn Abertawe i’w helpu i gael, cadw a symud ymlaen mewn cyflogaeth.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi cynnig cymorth i dros 10,000 o unigolion sy’n chwilio am gyflogaeth newydd neu well. Un o’r rheiny yw Kevin, a gyrhaeddodd y DU fel ceisiwr lloches ar ôl ffoi o El Salvador gyda’i wraig a’i dri phlentyn ifanc i chwilio am ddiogelwch.

Pan ddaeth Kevin, 30 oed, i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, roedd eisoes wedi wynebu nifer o rwystrau wrth chwilio am gyflogaeth ac roedd hefyd yn jyglo astudiaethau coleg, cwrs TG rhan-amser a rôl wirfoddol fel Gweithiwr Achos ac Argyfwng. Ond gyda chymorth Hyfforddwr Gyrfa dynodedig, yn fuan iawn cofrestrodd Kevin ar gyrsiau i wella ei sgiliau Saesneg a TG, a chael help i wneud ceisiadau am swyddi. Cafodd ei gyflwyno i nifer o gyflogwyr lleol oedd yn cynnig cyfleoedd yn ei ddewis faes. Fe wnaeth Kevin gynnydd yn gyflym ac yn ddiweddar mae wedi dechrau Prentisiaeth Gradd Dadansoddeg Data gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi cymorth i unigolion sydd am newid gyrfa, fel Ashleigh, 25 oed, sydd wedi cael cymorth gan dîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i symud o faes nyrsio i faes plymwaith ac mae bellach yn gwneud prentisiaeth gyda Chyngor Abertawe.

“Roedd y tîm yn hollol anhygoel pan ges i help ganddyn nhw yn ystod cyfnod heriol wrth newid gyrfa,” dywedodd Ashleigh. “Roedden nhw bob amser ar gael ar gyfer unrhyw gwestiynau oedd gyda fi ac roedden nhw’n fwy na pharod i helpu! Dwi wir yn gwerthfawrogi popeth mae GSGD wedi ei wneud i mi a dwi mor ddiolchgar iddyn nhw.”

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol hefyd wedi helpu dros 720 o fusnesau i ehangu a datblygu eu gweithlu. Yn eu plith mae cwnni cyfrifeg blaenllaw Morgan Hemp, sydd wedi llwyddo i recriwtio nifer o hyfforddeion i’w busnes ers 2017.

Sefydliad arall sydd wedi elwa ar gymorth rhaglen GSGD yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sydd wedi cynnig sesiynau dilyniant gyrfa un-i-un i staff er mwyn gwella eu cyfleoedd o sicrhau rolau newydd o fewn y sefydliad. Ers agor y gwasanaeth i staff y bwrdd iechyd mae mwy na 150 o unigolion wedi manteisio ar y cymorth hyd yma, gyda chanlyniadau gwych.

“Mae’r Tîm Datblygu Gyrfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi gweithio mewn partneriaeth â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ers dechrau 2019” meddai Rebecca Shaw, Hwylusydd Datblygiad Sefydliadol Arweiniol / Profiad Staff – Ymgysylltu. “Maen nhw wedi darparu hyfforddiant gyrfa ardderchog i helpu i lywio gyrfaoedd ein staff. Roedd angen cyngor a chymorth ar rai aelodau o staff i geisio am swyddi, paratoi am gyfweliadau neu hyd yn oed newid cyfeiriad gyrfa. Yn fwyaf diweddar, maen nhw wedi cynorthwyo staff yn y Canolfannau Brechu Torfol ar draws y bwrdd iechyd, gan gefnogi’r rhai y mae eu contractau yn dod i ben. Maen nhw’n gymorth mawr a bob amser ar gael ar ben arall y ffôn os oes angen unrhyw beth arnon ni.”

Mae’r rhaglen hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o sefydliadau ar draws y Ddinas a’r Sir i wella’r cymorth sydd ar gael i unigolion i wella eu rhagolygon gyrfa a’u hamgylchiadau bywyd. Mae hyn wedi cynnwys rhaglen gymorth wedi’i theilwra, ar y cyd â charchardai ar draws De Cymru i helpu troseddwyr i gael gwaith fel rhan o ymdrechion ehangach i leihau aildroseddu pan gânt eu rhyddhau o’r ddalfa. Hyd yma, mae hyn wedi ymgysylltu â mwy na 500 o unigolion.

“Mae’r pum mlynedd o weithredu wedi bod yn wych i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol,” dywedodd y Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, Cath Jenkins. “Rydyn ni wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau drwy gynnig cymorth i dros 10,000 o unigolion mewn cymunedau ar draws Abertawe sy’n chwilio am gyflogaeth newydd neu well a thros  720 o fusnesau sy’n ceisio cryfhau eu gweithlu.”

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn darparu cymorth cyflogaeth a gyrfaol wedi’i deilwra i unigolion di-waith sy’n chwilio am gyflogaeth well neu fwy diogel, a phobl ifanc sydd mewn perygl o roi’r gorau i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae’r rhaglen hefyd yn cynorthwyo busnesau sy’n ystyried cryfhau a thyfu eu gweithlu.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01792 274450 neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ch-Dde: Andrew Walsh, Nicola Berry, Louise Dempster, James Bevan, Rhian Noble, David Freeman, Sian James, Ffion Watts