Skip to main content
Sgôr 5 seren arall i fwyty’r Coleg

Sgôr 5 seren arall i fwyty’r Coleg

Yn dilyn ymweliad annisgwyl gan Iechyd yr Amgylchedd yn gynnar ym mis Mawrth, mae Coleg Gŵyr Abertawe wrth ei fodd i gadarnhau bod bwyty The Vanilla Pod a’r ceginau hyfforddi yn Nhycoch wedi cadw ei sgôr hylendid bwyd o 5.

“Mae hyn yn newyddion gwych,” medd Rheolwr Maes Dysgu Mark Clement. “Mae’n eithriadol bwysig ein bod ni’n parhau i hyrwyddo safonau uchel o hylendid a pharatoi bwyd i’n holl ddysgwyr. Rydym ni nid yn unig yn eu harfogi â sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, onds mae sgôr o 5 hefyd yn helpu i dawelu meddyliau ein cwsmeriaid fod hylendid, iechyd a diogelwch ar frig ein rhestr o flaenoriaethau.”

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu cwsmeriaid i ddewis ble i fwyta allan neu siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth iddynt ynghylch pa mor bwysig yw safonau hylendid bwyd i fusnes.

Dyfarnir sgôr hylendid i bob busnes pan gaiff ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd o awdurdod lleol y busnes. Ar ddiwedd yr adolygiad, rhoddir sgôr i’r busnes rhwng 0 a 5.

Golyga’r sgôr uchaf bod y busnes wedi dangos safonau o hylendid ‘da iawn’.