Skip to main content

Tîm Technoleg Ddigidol yn edrych ymlaen at Ffair y Glec Fawr

Roedd llwyddiant myfyrwyr Technoleg Ddigidol yn destun balchder i Goleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar yn ystod Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Worldskills yn Birmingham NEC.

Roedd y myfyrwyr, ynghyd â’r darlithwyr Steve Williams a Clive Monks a’r Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Teresa Jayathilaka, wedi treulio pum diwrnod dwys yn paratoi ar gyfer y sioe, ac yn cymryd rhan ynddi.

Cafodd Sara Vonk a Chloe Moore y dasg o redeg Arddangosfa Electroneg Ddiwydiannol yn ystod y digwyddiad, ac roedd cannoedd o bobl wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau hwyliog ac addysgol.

“Roedden ni eisiau ein stondin i apelio at gynulleidfa mor eang ag sy’n bosibl,” dywedodd Sara. “Roedd ein gweithgaredd ‘sut i gael trydan allan o daten’ yn gyffrous tu hwnt, gyda phobl yn defnyddio amlfesuryddion i brofi’r foltedd o’r llysiau. Roedd teuluoedd cyfan wedi llwyr ymgolli yn hyn ac roedd yn ffordd hwyliog iawn o’u cael nhw i feddwl ychydig yn wahanol am electroneg.”

Cafodd y bobl hynny sydd â gwybodaeth uwch ymarfer sodro i’w gwblhau. Gwnaeth Chloe tua 300 o fathodynnau ‘wyneb hapus’ a chafodd ymwelwyr â’r stondin eu hannog i roi cynnig ar sodro’r bathodynnau er mwyn eu goleuo.

“Roedd Sara a Chloe wedi ymdopi’n dda ac wedi siarad yn hyderus â llawer o wahanol grwpiau o bobl – yn llythrennol, roedden nhw wedi gwneud i’w hwynebau oleuo!” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams. “Mae llawer o waith wedi mynd i mewn i hyn – wythnosau o baratoi, marchnata a thaflu syniadau ond roedd yn brofiad bendigedig iddyn nhw.”

Yn y cyfamser, roedd grŵp arall o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe - Kieran Belton, Ryan Thomas, Cody Wilks ac Adams Wilkins-Williams – wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth Electroneg Ddiwydiannol a chyflwyno prototeip Teledu Clyfar maen nhw wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â Tongfang Global (THTF).

“Mae’r myfyrwyr hyn i gyd wedi gweithio’n galed iawn i wneud eu gorau glas drwy gydol y gystadleuaeth,” ychwanegodd Clive Monks, a oedd yn un o’r prif feirniaid yn y digwyddiad. “Does dim amheuaeth bydd y profiad hwn yn gwella’u gallu a’u hyder a bydd yn gymorth mawr iddyn nhw ar gyfer y dyddiad mawr nesaf yn y dyddiadur – Ffair y Glec Fawr ym mis Mawrth 2017.”