Taro’r nodau uchel – o berfformwyr ‘brenhinol’ i arwyr y cae rygbi


Diweddarwyd 05/07/2018

Dewch i gwrdd ag allforion Abertawe sy’n concro’r byd

O Dylan Thomas a Catherine Zeta Jones i Joe’s Ice-cream a’r ‘Jacks’ – mae gan Abertawe llawer i’w gynnig.

Ymhlith cyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, ceir enwau enwog niferus. Dyma ond ychydig o’r cyn-fyfyrwyr sydd wedi gadael eu holion ym myd y celfyddydau, chwaraeon a bwyd –  i enwi ond ychydig ohonynt.

Elin Manahan Thomas
Mae’n debyg y bu priodas fawr yn gynt eleni! Os oeddech chi’n gwylio priodas ddiweddar y Tywysog Harry a Meghan Markle, byddwch chi wedi clywed cyn-fyfyrwraig Coleg Gŵyr Abertawe, Elin Manahan Thomas, yn serenadu’r gŵr a gwraig frenhinol gydag Eternal Source of Light Divine.

Mae’r gantores soprano wedi teithio’r byd ers ei dyddiau’n astudio ar Gampws Gorseinion, gan gynnwys perfformio yn Seoul, Fenis a Barcelona.

Leigh Halfpenny
Er ei fod wedi symud yn ôl i Gymru’n ddiweddar i chwarae i’r Scarletts, mae’r ciciwr o fri hwn yn adnabyddus ym mhedwar ban byd am ei allu cicio arwrol.

Bu Leigh yn fyfyriwr ar Gampws Tycoch rhwng 2005 a 2007 ac, fel y byddwch yn dychmygu, roedd rygbi’n rhan fawr o’i fywyd yn y Coleg. Ond nid yw hynny’n golygu mai chwaraeon oedd ei unig ddiddordeb. Cafodd graddau uchel yn ei arholiadau a chafodd le ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio deintyddiaeth cyn i ffawd bennu cynlluniau gwahanol iddo.

Rosie Sheehy
Astudiodd cyn-fyfyrwraig Rosie Safon Uwch Drama yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn symud i academi gelfyddydol fwyaf urddasol y DU, RADA.

Ers hynny, mae wedi perfformio ar y llwyfan (gan ennill Perfformiad Gorau gan Fenyw yng nghategori iaith Saesneg Gwobrau Theatr Cymru yn 2018 am ei rôl yn Uncle Vanya) ac ar y sgrîn (yn DCI Banks) a chyfeiriwyd ati’n ddiweddar yn y Guardian fel ‘knockout’ ac ‘one of the finds of the year’.

Ddim yn wael o bell ffordd, yn ein barn ni!

Adam Bannister
Os ydych chi wedi bwyta yn Slice yn Sgeti, ni fydd angen unrhyw gyflwyniad ar Adam.  Mae Adam yn un o gogyddion mwyaf medrus Cymru, a phleidleisiwyd ei fwyty’n un o’r goreuon yn Abertawe. Mae wedi’i gynnwys yn rhestr y Michelin Guide hefyd.

Fel myfyrwyr, cynrychiolodd Goleg Gŵyr Abertawe’n rheolaidd mewn nifer o gystadlaethau uchel eu proffil, gan arwain ato’n cael ei ddewis fel un o gystadleuwyr Cymru ar gyfer Great British Menu y BBC. Yn ffodus i fyfrwyr presennol, mae Adam yn ymweld â’i hen gegin ar y campws yn aml i’w hysbrydoli a rhannau ei brofiadau personol ef â nhw.

Hattie Gent
Mae Hattie yn gweithio fel Cyfarwyddwr Celf yn y diwydiant ffilm a theledu, wedi astudio Safon Uwch a Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Yn ogystal â’i hastudiaethau Coleg, ymunodd Hattie â Chwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg fel technegydd ac yna graddiodd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i ddilyn rhaglen BA (ag Anrhydedd) mewn Dylunio Theatr.

Bellach, mae ei gwaith caled yn talu ar ei ganfed, gan iddi gael cyflogaeth ar sawl cynhyrchiad, gan gynnwys Da Vinci’s Demons, Ordinary Lies a Will. Mae Hattie yn Gyfarwyddwr Celf Cynorthwyol ar Black Mirror clodwiw Charlie Brooker ar hyn o bryd.

Joshua Jenkins
Mae Joshua yn perfformio mewn sioe deithiol ledled y DU ac Awstralia ar hyn o bryd ond dechreuodd ei yrfa actio proffesiynol ym mherfformiad clodwiw'r Theatr Genedlaethol o The Curious Incident of the Dog in the Night-time.

Chwaraeodd rôl arweiniol Christopher,  ac agorodd Joshua’r sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae wedi llewyrchu ers hynny. Mae’n raddedig o Conservatoire Brenhinol yr Alban ond astudiodd Joshua’r Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe rhwng 2004 a 2006.

Jazz Carlin
Mae Jazz Carlin wedi ennill medal ym mhob lefel o gystadleuaeth ryngwladol. Dechreuodd nofio pan oedd yn blentyn a pharhaodd a’i champ pan oedd hi’n fyfyrwraig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe rhwng 2007 a 2009.

Cipiodd Jazz ddwy fedal arian yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016, yn y Dull Rhydd 400m a’r Dull Rhydd 800m ac, yn fwyaf ddiweddar, chariodd y faner Gymreig yn uchel yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia.

Justin Tipuric
Yn arwr y Llewod Prydeinig a Gwyddelig dwywaith, mae Justin Tipuric wedi ennill 50 cap i Gymru, wedi cael ei groesawu i dîm arwrol y Barbarians ac wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018.

Mae’n adnabyddus am fod yn un o flaenasgellwyr mwyaf dawnus a dibynadwy Cymru ac mae’r aelod hwn o’r Gweilch wedi chwarae ym mhob lefel oedran-gradd. Mae wedi canu clod Coleg Gŵyr Abertawe hefyd am wneud ei amser yn Abertawe fel myfyriwr mor hyfryd, ac am ei ddarparu â digonedd o brofiad rygbi hefyd, wrth reswm! 

Gallwch gyflwyno cais nawr i astudio cwrs amser llawn â ni ym mis Medi. Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.gcs.ac.uk/cy 

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Jones-Arthur yn Working Word drwy ffonio 02920 455182 neu e-bostio bethan.jones-arthur@workingword.co.uk

Tags: