Skip to main content

Treial Academi Bêl-droed Pro:Direct - Dydd Mercher 12 Ebrill

Yn dilyn llwyddiant y treial agored ym mis Chwefror, mae Pro:Direct yn hapus o gyhoeddi treial arall ar ddydd Mercher, 12 Ebrill

Mae’r treial yn agored i fechgyn Blwyddyn 11 sy’n chwarae pêl-droed, a bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol 3G (SA4 4LP), 10am-12pm

Yr Academi yw’r unig Academi Pêl-droed Pro:Direct yng Nghymru, ac yn rhoi modd i chwaraewyr hyfforddi’n amser llawn fel chwaraewyr proffesiynol, gyda hyfforddwyr trwyddedig UEFA a’r Gymdeithas Bêl-droed, gemau cystadleuol wythnosol a rhaglenni ffitrwydd ac adferiad ar lefel broffesiynol. 

Ochr yn ochr ag Academi De Cymru, gall chwaraewyr ddewis astudio ar un o’r cyrsiau niferus yn y Coleg sy’n cyd-fynd â’r slotiau hyfforddi a’r gemau. Mae llawer o’r chwaraewyr yn dewis astudio cwrs Tystysgrif neu gwrs Diploma Cenedlaethol mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed, ond mae cyrsiau eraill ar gael hefyd. 

I gymryd rhan neu am fwy o wybodaeth, e-bostiwch richard.south@prodirectacademy.com 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen Instagram Academi De Cymru Pro:Direct.