Skip to main content
Tri myfyriwr yn cael eu hystyried ar gyfer Gwobrau VQ 2019

Tri myfyriwr yn cael eu hystyried ar gyfer Gwobrau VQ 2019

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn hynod falch o gael nid un, nid dau ond tri myfyriwr sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau VQ 2019.

Yn gyntaf mae Reagan Locke, sy’n cael ei ystyried ar gyfer teitl Dysgwr Uwch VQ y Flwyddyn.

Am y tair blynedd diwethaf, mae Reagan wedi gweithio yn labordai Tata Steel. Mae hefyd wedi llwyddo i gwblhau Tystysgrif Genedlaethol Uwch  mewn Cemeg Gymhwysol (Rhagoriaeth) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ac roedd hyn wedi caniatáu iddo symud yn syth ymlaen i gwrs gradd rhan-amser ail flwyddyn mewn cemeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Nid dyma’r tro cyntaf i Reagan gael ei enwebu ar gyfer gwobr – yn 2018 daeth yn ail yng ngwobrau Technegydd y Flwyddyn y Sefydliad Mwynau, Defnyddiau a Mwyngloddio. 

Yn y cyfamser, mae’r cyn-fyfyriwr Collette Gorvett, sydd bellach yn gweithio yn The Ritz, Llundain, yn cael ei hystyried ar gyfer Dysgwr Canolradd VQ y Flwyddyn.

Roedd Collette wedi ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe yn 2015 i astudio Diploma Lefel 1 mewn Coginio Proffesioynol cyn symud ymlaen i’r Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch, Cegin a Bwtri.

Yn ogystal â’i llwyddiannau academaidd, mae cyfranogiad Collette mewn cystadlaethau sgiliau  ar lefelau Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd wedi ei gwneud yn hyrwyddwr rhagorol ar gyfer dysgu galwedigaethol. Yn ddiweddar mae wedi ennill lle ar Dîm y DU a bydd yn cynrychioli ei gwlad yn Rowndiau Terfynol WorldSkills yn Rwsia ym mis Awst. Mae hefyd yn rhoi dosbarthiadau meistr i gystadleuwyr addawol ac yn gweithredu fel mentor/llysgennad dros ddigwyddiadau Ysbrydoli Sgiliau.

Mae Alex Davies hefyd yn cael ei enwebu ar gyfer gwobr Dysgwr Canolradd VQ y Flwyddyn. Ar y dechrau gwnaeth Alex gofrestru ar gwrs gosodiadau trydanol, ac yn fuan trosglwyddodd i Raglen y Bont Coleg Gŵyr Abertawe a oedd wedi rhoi blas ar feysydd cwricwlwm eraill iddo. Dyna pryd sylweddolodd fod ganddo ddiddordeb angerddol mewn gweithio gyda phlant ifanc.

Ers ymrwymo i ofal plant yn 2015, mae Alex wedi cwblhau CACHE Lefelau 1 a 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yn ogystal â chyrsiau mewn cymorth cyntaf brys a chymorth cyntaf pediatrig, ac mae wrthi nawr yn cwblhau Diploma Lefel 3.

Ei leoliad mewn ysgol gynradd leol oedd wedi amlygu gallu naturiol Alex i weithio gyda phlant ifanc ac ers hynny mae wedi cael cynnig swydd amser llawn.

Yr hyn sy’n helpu i ddodi Alex ar wahân yw ei ymrwymiad rhagorol i ddysgu yn wyneb cyfnodau anodd. Mae anawsterau yn yr ysgol, yn ei fywyd gartref, yn ogystal â thaith bws tair awr bob dydd i’r coleg, wedi dangos ei awydd penderfynol i lwyddo ac mae hyn wedi ei wneud yn fodel rôl sy’n gallu ysbrydoli eraill.

Mae Diwrnod VQ yn dathlu llwyddiant galwedigaethol a manteision dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol i’r unigolyn ac economi’r DU

Bydd y tri myfyriwr yn gwybod a ydynt wedi cael eu dewis fel enillwyr mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar noson y 15 Mai.

DIWEDD