Skip to main content
Myfyrwyr yn reidio beic sefydlog i gymysgu smwddi

Wythnos Lles Dysgwyr 2023

Unwaith eto, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn arwain y ffordd ar gyfer cydnabod pwysigrwydd iechyd a lles ei gymuned. Y tro hwn, y dysgwyr sydd o dan y chwyddwydr!  

Bwriad Wythnos Lles Dysgwyr, sef digwyddiad pwrpasol a drefnir gan y Coleg,  yw hybu iechyd meddwl a chorfforol cadarnhaol ac amgylchedd lle gall myfyrwyr ffynnu yn academaidd ac yn bersonol. 

Cynhaliwyd gweithgareddau gan Dîm Lles y Coleg ar draws campysau Gorseinon, Tycoch, Llwyn y Bryn a Llys Jiwbilî.  

Cafodd myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys adweitheg, Pilates, golff mini a dosbarthiadau crochenwaith. Cawsant hefyd gyfle i gwrdd â chŵn therapi Cariad Pet Therapy, dysgu triciau gan Circus Eruprion a chreu eu smwddis eu hunain trwy feicio i gwmni o’r enw Smoothie Bike Company. 

Fe wnaeth ein myfyrwyr hefyd fwynhau gweithgareddau lles yr wythnos hon, a dywedodd un ohonynt, “Roedd yn gymaint o hwyl; diwrnod gorau fy mywyd.” 

Mae Tîm Lles y Coleg yn gweithio’n galed trwy gydol y flwyddyn i greu amgylchedd lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan eu grymuso a’u hannog i wneud eu gorau glas. Mae cynlluniau gweithgareddau wythnosol ar gyfer y myfyrwyr yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau lles corfforol, gan gynnwys dosbarthiadau ioga a ffitrwydd, ynghyd â sesiynau gwybodaeth am fwyta’n iach a rheoli straen. 

Cefnogir y gweithgareddau hyn gan Undeb y Myfyrwyr ac mae arlywydd etholedig y myfyrwyr, Fatima Lopes, yn helpu hyrwyddo’r clybiau niferus y gall myfyrwyr fod yn rhan ohonynt megis clwb yr amgylchedd, clwb gwyddbwyll a chlymblaid Pride.  

Hefyd, mae gan y Coleg dîm o swyddogion cymorth myfyrwyr, hyfforddwyr bugeiliol, ymgynghorwyr iechyd a gwasanaeth cwnsela ar gyfer myfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol ar ben eu hastudiaethau. Mae staff Gwell Swyddi, gwell Dyfodol a Gyrfa Cymru ar gael i helpu myfyrwyr sicrhau cyfleoedd cyflogaeth. 

Dim ond un enghraifft yn unig yw Wythnos Lles Dysgwyr o’r llu o fentrau a drefnir gan Goleg Gwyr Abertawe sy’n ymrwymedig i les dysgwyr a chydnabod pwysigrwydd bywyd iach a chytbwys wrth ymgymryd ag astudiaethau academaidd.