Yn dal i chwilio am eich cwrs delfrydol i’w ddechrau ym mis Medi?


Diweddarwyd 06/09/2018

I gannoedd o fyfyrwyr ar draws Abertawe, bydd yr haf wedi bod yn gyfnod emosiynol o gyffro a nerfau wrth iddynt aros yn amyneddgar am eu canlyniadau arholiadau TGAU. Er bod y diwrnod hwnnw wedi mynd a dod, gallai rhai teimladau o ansicrwydd barhau i fod yn broblem i nifer o bobl ifanc. Yma i gynnig rhywfaint o gyngor a chysur i’r rhai sy’n dal i fod yn ansicr ynghylch beth i’w wneud nesaf mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe.

Gall meddwl am adael yr ysgol, symud ymlaen i'r coleg neu ddechrau swydd fod yn ddychrynllyd, yn enwedig os ydych chi'n teimlo bod pawb o'ch cwmpas yn ymddangos yn hyderus yn eu galluoedd i wneud penderfyniadau a symud ymlaen. Ond y peth pwysig i'w gofio yw bod amser gennych chi o hyd i ystyried eich llwybr ar gyfer y dyfodol.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol y gall myfyrwyr gofrestru arnynt cyn dechrau’r tymor newydd ym mis Medi. Rwyf wedi amlinellu ychydig o'r cyrsiau hyn a'r cyfleoedd a gynigiant i chi eu hystyried, ond mae bob amser yn werth cysylltu â'r Coleg yn uniongyrchol i drafod eich opsiynau a phenderfynu beth sydd orau i chi.

Y Celfyddydau Perfformio
Mae myfyrwyr blaenorol wedi symud ymlaen i sicrhau lleoedd mewn colegau nodedig y celfyddydau perfformio gan gynnwys RADA, Arts Ed, Ysgol Gerdd a Drama Guildhall a Chanolfan Laban. Tra bod nifer o raddedigion yn symud ymlaen yn uniongyrchol i’r llwyfan a’r sgrin, mae eraill wedi canlyn gyrfaoedd llewyrchus y tu ôl i’r llenni – ym maes addysg y celfyddydau/gwaith gweinyddu’r celfyddydau.

Ar ein cwrs Lefel 3, caiff technegau perfformio mewn actio, canu a symud eu datblygu’n llawn. Mae unedau cwrs gorfodol yn cynnwys gweithdy perfformio a pherfformio i gynulleidfa, ond mae gan fyfyrwyr ddewis o bron 30 o unedau llwybrau gwahanol, yn dibynnu ar eu setiau sgiliau unigol, o ddawns fyrfyfyr a theatr i blant, i actio mewn ffilmiau a rhaglenni teledu a gwaith theori ac ymarfer clyweliadau.

I gael rhagor o wybodaeth am astudio’r celfyddydau perfformio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch i https://www.gcs.ac.uk/course-search?cat=Performing%20Arts&type=Full-Time...

Trin Gwallt
Yn berffaith i’r rhai a hoffai fod yn steilwyr ac yn arbenigwyr lliw, bydd ein cyrsiau trin gwallt yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau trwy ddysgu o fewn amgylchedd salon realistig Canolfan Trin Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway.

Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i liwio a goleuo gwallt, yn ogystal â dysgu technegau steilio a gorffennu. Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i fod yn berchnogion salon neu maen nhw’n teithio’r byd fel uwch-steilwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am astudio trin gwallt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch i https://www.gcs.ac.uk/course-search?cat=Hairdressing&type=Full-Time&sect...

Cerbydau Modur
Gyda chyrsiau ar gael ar gyfer amrywiaeth o lefelau sgiliau, mae darpar fecanyddion a pheirianwyr rasio ceir yn gallu dechrau eu gyrfaoedd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ym mis Medi ar amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau, Cynnal a Chadw Systemau Cerbydau a Thechnoleg Cerbydau.

Bydd pob myfyriwr yn dysgu trwy arddangosiadau ymarferol a ategir gan dasgau gwaith realistig.

Trwy weithio yn ein gweithdai cerbydau modur, bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys adnabod gwahanol fathau o gerbydau modur, a pherfformio atgyweiriadau gwasanaeth ar freciau a theiars, systemau oeri injan a gwasanaethau trawsyrru.

I gael rhagor o wybodaeth am astudio cerbydau modur yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch i
https://www.gcs.ac.uk/motor-vehicle#!pnl_full-time

Therapïau Cyfannol
Dysgwch sut i greu amgylchedd sba tawel a datblygu sgiliau ymarferol mewn triniaethau sba a thylino cysylltiedig. Mae gan y Coleg gyfleusterau sba arbenigol lle mae myfyrwyr yn gwneud asesiadau ymarferol a lleoliad gwaith wythnosol, gan ddarparu triniaethau i gleientiaid sy’n talu. Bydd dysgwyr yn dysgu sut i berfformio nifer o driniaethau gan gynnwys tylino Swedaidd, tylino pen Indiaidd a lapio corff, yn ogystal â dysgu’r theori academaidd y tu ôl i anatomeg, ffisioleg a phatholeg.

I gael rhagor o wybodaeth am astudio therapïau sba yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch i https://www.gcs.ac.uk/course-search?cat=Holistics&type=Full-Time&section...

Plymwaith
Bydd angen plymwyr ar bobl bob amser! Heb os nac oni bai, dyna pam mae’n llwybr gyrfa y dylech ymchwilio iddo os ydych yn chwilio am rywbeth heriol ac ymarferol nad yw’r galw amdano byth yn debygol o ostwng.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau yn dechrau gyda Diploma Lefel 1, sef y cyflwyniad delfrydol i’r sector, gyda modiwlau’n cwmpasu arferion gweithio diogel, prosesau systemau plymwaith, technegau gosod a thechnolegau amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am astudio plymwaith yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch i https://www.gcs.ac.uk/course-search?cat=Plumbing&type=Full-Time&section=...

Tags: