
Wrth i ni groesawu’r Flwyddyn Newydd, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn eich gwahodd i wella’ch sgiliau gyda’u cyrsiau rhan-amser.
P’un a ydych yn ystyried rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru eich sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, mae gan Goleg Gŵyr Abertawe gwrs rhan-amser i chi. Ac mae rhai ohonynt yn rhad ac am ddim.
Byddwch yn greadigol gyda chyrsiau mewn sgrin-brintio, blodeuwriaeth neu ffotograffiaeth. Rhowch gynnig ar grefft gyda chyrsiau i ddechreuwyr mewn gosod brics, gwaith coed, plastro neu blymwaith. Neu datblygwch eich gyrfa trwy ddosbarthiadau cyfrifeg, cyfryngau cymdeithasol neu godio amrywiol.
Ynghyd â chyrsiau peirianneg, coginio, cwnsela, ieithoedd, harddwch a chwaraeon – bydd gennych ddigonedd o ddewis!
Tanio dyfodol newydd: o’r ystafell ddosbarth i’r farchnad
Mae Sian Charlton yn athrawes ysgol gynradd wedi’i hymddeol a gwnaeth ei merched hi ei chofrestru ar gwrs Technegau Gwydr deg wythnos ar gyfer Sul y Mamau eleni.
“Dwi bob amser wedi mwynhau crefftio, ond roedd gwydr yn gyfrwng nad oeddwn wedi gweithio gydag ef o’r blaen. Roeddwn i ychydig yn nerfus yn mynd i’r dosbarth cyntaf, ond cefais groeso cynnes iawn gan bawb.
“Mae’r athro, Ali, yn wirioneddol ysbrydoledig ac mae’n addysgu technegau newydd i ni bob wythnos. A dwi wedi cwympo mewn cariad gyda gwydr cymaint fel bod odyn microdon gyda fi gartref!
“Dwi wedi gwerthu fy ngwaith mewn marchnadoedd crefftau amrywiol, ac un o’r uchafbwyntiau eleni oedd arddangos fy mwclis yn Oriel Mission,” meddai.
“Os ydych chi’n ystyried cwrs rhan-amser yn y Coleg - ewch amdani! Dydych chi byth yn gwybod ble gallai fynd â chi.”
Gwnewch cais heddiw
Fel myfyriwr rhan-amser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallwch elwa ar staff profiadol a chyfleusterau gwych. Cewch fynediad hefyd i gymorth myfyrwyr a chyflogadwyedd, yn ogystal â llyfrgelloedd y Coleg.
Cyfoethogwch eich bywyd trwy addysg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ymunwch ym mis Ionawr i gael profiad dysgu ysbrydoledig.
Am fanylion ac i wneud cais, ewch i'n tudalen addysg oedolion.