Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau rhagorol wrth i’r gyfradd basio Safon Uwch gyrraedd 100% am yr ail flwyddyn yn olynol

Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau rhagorol wrth i’r gyfradd basio Safon Uwch gyrraedd 100% am yr ail flwyddyn yn olynol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau gwych eleni wrth i’r gyfradd basio Safon uwch gyrraedd 100% am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae nifer y graddau uchaf wedi codi unwaith eto, gyda 14% o ddysgwyr yn sicrhau graddau A*, sy’n gynnydd o 12% o’i gymharu â chanlyniadau'r llynedd.

Roedd perfformiad uchel ar gyfer y graddau hefyd yr un mor nodedig, gyda 39% o ddysgwyr yn sicrhau graddau A*-A a 152 o ddysgwyr yn sicrhau gradd A* neu A.

Yn unol â’r llwyddiant hyn, fe wnaeth 67% o ddysgwyr sicrhau graddau A*-B, gyda 87% yn sicrhau graddau A*-C.

Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchiad o ansawdd ardderchog ein darpariaeth a chysondeb eithriadol mewn perthynas â chyflawniad Safon Uwch ar draws y Coleg.

Yn ogystal â hyn, fe wnaeth ein myfyrwyr Safon UG sicrhau canlyniadau da iawn. Y gyfradd basio gyffredinol oedd 94% (yr un peth â’r llynedd). O’r rhain, roedd 70% yn raddau A-C, ac roedd bron hanner y graddau (49%) y sicrhawyd yn raddau A-B.

Roedd canlyniadau galwedigaethol y Coleg yn wych eleni, lle cwblhaodd bron pob dysgwr eu rhaglen Lefel 3 dwy flynedd yn llwyddiannus, gan arwain at gyfradd lwyddo wych o 99%. Roedd cyflawniad graddau uchel yr un mor nodedig, gyda 38% yn cyflawni o leiaf un Rhagoriaeth a 22% yn cyflawni'r radd uchaf posib.

Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchiad o ardderchowgrwydd eang Coleg Gŵyr Abertawe - o berfformiadau unigol heb eu hail ein dysgwyr i’r canlyniadau cryf a sicrhawyd ar draws rhaglenni Safon Uwch, Safon UG a rhaglenni galwedigaethol.

Mae’r canlyniadau’n tanlinellu dawn, uchelgais a phenderfyniad dysgwyr y Coleg, ynghyd ag ymroddiad ac arbenigedd ein staff addysgu a chymorth.

"Yn gyntaf, mae’r canlyniadau rhagorol hyn yn adlewyrchiad o waith caled a phenderfyniad rhyfeddol ein dysgwyr. Dylent fod yn falch iawn o bopeth y maen nhw wedi ei gyflawni,” meddai’r Pennaeth, Paul Kift. “Mae eu llwyddiant wedi cael eu hybu gan ymroddiad staff y Coleg ac anogaeth amhrisiadwy rhieni, teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau. Rydyn ni’n falch iawn o ddathlu eu llwyddiannau gyda nhw heddiw. Mae sicrhau cyfradd basio o 100% ar gyfer Safon uwch yn gyflawniad gwych i’r Coleg, ac rydym yn arbennig o falch o weld cynnydd arall yn y graddau uchaf (A* ac A*-A), sy’n adlewyrchiad o’n pwyslais ar ragoriaeth academaidd.

"Rydyn ni’n falch bod cymaint o’n dysgwyr Safon Uwch a Galwedigaethol wedi symud ymlaen i sefydliadau a conservatoires gorau’r DU, yn ogystal â sicrhau lle ar brentisiaeth uwch cystadleuol iawn."

Ychwanegodd y Prify Swyddog gweithredol, Kelly Fountain: “Hoffwn longyfarch a dymuno pob dymuniad gorau i’n myfyrwyr sy’n casglu eu canlyniadau heddiw. Diolch hefyd i staff Coleg Gŵyr Abertawe sy’n gweithio’n ddiddiwedd i gefnogi ein dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

"Rwy’n gobeithio bod pawb wedi derbyn y canlyniadau roedd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen i gam nesaf eu taith, ond os na lwyddoch i wneud hyn, peidiwch â phoeni - rydyn ni yma i’ch helpu. Dewch i gael sgwrs â ni; mae gennym staff ymroddedig ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad personol i ddysgwyr.

"Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydyn ni’n falch iawn o’r ystod eang o lwybrau cymorth sydd gennym i hwyluso uchelgeisiau ein dysgwyr. O gyrsiau Addysg Uwch a llwybrau prentisiaethau i gymorth cyflogadwyedd i ddysgwyr sy’n symud yn syth i fyd gwaith, ein nod yw sicrhau bod gan bob myfyriwr fynediad at gyfleoedd sy’n gweddu orau i’w hamcanion. Rydyn ni’n ymrwymedig i helpu pob un o’n dysgwyr gyflawni eu potensial llawn a llwyddo ym mha bynnag lwybr y maent yn ei ddewis."

Ychwanegodd Arglwydd Faer Abertawe, Penny Matthews: "Hoffwn longyfarch holl fyfyrwyr Safon Uwch ledled Abertawe gan eu bod yn haeddu canmoliaeth enfawr am eu cyflawniadau eleni.

"Mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad o’r gwaith caled, y penderfyniad a’r ymrwymiad a ddangoswyd trwy gydol eu hastudiaethau.

“Dymunaf bob llwyddiant i bobl ifanc Abertawe ar gyfer y dyfodol gyda beth bynnag maen nhw'n ei wneud nesaf.”