Skip to main content

Coleg yn ennill Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn!

Tair menyw, yn gwenu, ac yn dal gwobr

Yn ddiweddar, mewn dathliad o ragoriaeth ac arloesedd ym maes Adnoddau Dynol, cafodd Coleg Gŵyr Abertawe ei enwi’n Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2024.

Wedi’i enwebu yn rownd derfynol y categori Sector Cyhoeddus a’r categori Menter y Flwyddyn – Lles Gweithwyr am y gwaith y mae wedi’i wneud ar godi ymwybyddiaeth am y menopos, roedd y Coleg yn falch iawn o fod wedi ennill.

Eleni, cafwyd ychydig dros 300 o geisiadau gan sefydliadau ar draws y DU ac felly mae ennill mewn categori ochr yn ochr â chwmnïau byd-eang fel Jaguar, Selfridges a TSB yn anhygoel.

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi ennill y wobr hon,” meddai Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Coleg, Sarah King. “Rydyn ni’n ymrwymedig i greu amgylchedd lle mae lles ein gweithwyr yn flaenllaw yn yr hyn a wnawn. Er enghraifft, rydyn ni’n sefydliad menopos achrededig ac rydyn ni wedi buddsoddi mewn mentrau wedi’u targedu i gefnogi lles ein staff benywaidd. Fe wnaethon ni lofnodi addewid gweithle ym mis Ionawr 2022 i ymrwymo i fod yn sefydliad sy’n ystyriol o’r menopos ac fe wnaethon ni gyflwyno rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i’r holl reolwyr i’w helpu i deimlo eu bod nhw’n gallu cael sgyrsiau am y menopos. 

“Mae ennill y wobr hon yn destament arall i’r holl waith caled hwn rydyn ni mor falch ohono. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan ar hyd y ffordd,” ychwanegodd Sarah.

Mae ymdrech arbennig y Coleg yn y maes hwn o waith hefyd wedi’i gydnabod pan enillodd Fenter Iechyd a Lles orau yng ngwobrau cenedlaethol CIPD yn 2023 a chyrraedd rownd derfynol Gwobrau CIPD Cymru am y Fenter Les orau. Ym mis Mehefin, mae hefyd yn cystadlu ar gyfer Menter Iechyd Merched orau yng Ngwobrau Inside Out.

Y mis diwethaf, cafodd Sarah King ei gwahodd i ddigwyddiad bord gron yn Rhif 10 Stryd Downing ar y Menopos yn y Gweithle, dan ofal y Gweinidog Mims Davies.

Roedd beirniaid Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2024 yn cynnwys:

•    Louise Benford, Prif Swyddog Pobl, The AA
•    Sharon Benson, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Lloyds Pharmacy Clinical Homecare
•    Kath Ennis, Prif Swyddog Pobl, WPP Specialist Communications
•    Mary Foulkes OBE FCIPD, Cyfarwyddwr Tegwch, Cynhwysiant a Diwylliant, Shelter
•    Maria Hawley, Cyfarwyddwr Pobl, Fisher German
•    Dr Tracey Leghorn, Prif Swyddog Gwasanaethau Busnes, SUEZ Recycling and Recovery UK
•    Vilma Nikolaidou, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, Sefydliad Ffilm Prydain (BFI)
•    Melanie Punch, Prif Swyddog Gweithredu – Pobl a Threfniadaeth, Investec
•    Janet Roberts, Prif Swyddog Pobl a Diwylliant, Cycas Hospitality
•    Perry Timms, Prif Swyddog Ynni, People and Transformational HR
•    Helen Tindle, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Iceland Foods
•    Lucy Tobin, Cyfarwyddwr Pobl (Ewrop), Frontier Economics
•    Nate Harwood, Sylfaenydd, New Possible

“Mae Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain yn dathlu’r timau a’r unigolion dawnus, ymroddedig ac angerddol sy’n hybu gweithleoedd llewyrchus ledled y DU a thu hwnt – hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol,” meddai Nate Harwood.

DIWEDD 

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i’r wefan

Cefnogir Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain gan New Possible, platfform gwybodaeth i weithwyr. Mae New Possible yn helpu arweinwyr Adnoddau Dynol i adeiladu sefydliadau iachach trwy ddarparu gwybodaeth ystyrlon a all ysgogi newid go iawn.