Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl i 11 myfyriwr o’i gwrs Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio gael eu derbyn mewn ysgolion drama arbenigol ledled y DU.
“Mae hwn yn ganlyniad penigamp i’n myfyrwyr Lefel 4,” meddai’r Arweinydd Cwricwlwm Wyn Richards. “Mae cael cynifer o gynigion cadarn a galwadau yn ôl o fewn un garfan yn newyddion gwych ac rydyn ni i gyd mor falch.
“Mae’r cystadlu am fynediad i’r ysgolion drama arbenigol hyn yn ddwys ac fe weithiodd y myfyrwyr hyn yn anhygoel o galed drwy’r holl broses, gan baratoi ar gyfer cyfweliadau a chlyweliadau wrth barhau i wneud eu hastudiaethau, yn ogystal â pharatoi ar gyfer eu cynyrchiadau mawr terfynol yn y Coleg. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd y grŵp talentog hwn yn ei wneud yn y dyfodol!”
Y myfyrwyr yw:
Alex Barnett: cafodd ei dderbyn yn Ysgol Actio East 15, Ysgol Ganolog Frenhinol Lleferydd a Drama, a Choleg Theatr a Pherfformio Rose Bruford. Yn ogystal, cyrhaeddodd Alex y rhestr wrth gefn yn Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl; a chafodd ei alw yn ôl yn Academi Celfyddydau Theatr Mountview.
Cai Brown: cafodd ei dderbyn yn Drama Studio London; cyrhaeddodd y rhestr wrth gefn yn Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl; a chafodd ei alw yn ôl yn Academi Celfyddydau Theatr Mountview, Ysgol Addysg y Celfyddydau Llundain, Ysgol Actio East 15, ac Italia Conti.
Rebecca Cole: cafodd ei derbyn yn Drama Studio London, Ysgol Actio East 15, ac Ysgol Actio Bryste; cafodd ei galw yn ôl yn GSA Conservatoire.
Joshua De-Gruchy: cafodd ei dderbyn yn Ysgol Actio East 15, ac Ysgol Actio Bryste; cafodd ei alw yn ôl yn Italia Conti.
Cai Francis: cafodd ei dderbyn yn MPAA.
Evan Gilmore: cafodd ei dderbyn yn Drama Studio London, a Phrifysgol Falmouth; cafodd ei alw yn ôl yn Ysgol Actio East 15.
Harry Harkness: cafodd ei alw yn ôl yn Ysgol Actio East 15.
Ioan Jenkins: cafodd ei dderbyn yn Ysgol Actio East 15 a Choleg Theatr a Pherfformio Rose Bruford; cafodd ei alw yn ôl yn Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl, ac Academi Celfyddydau Theatr Mountview.
Emily Jones: cafodd ei derbyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Trinity LABAN, Coleg y Perfformwyr, MPAA, a Conservatoire Brenhinol Birmingham; cyrhaeddodd y rhestr wrth gefn yn Italia Conti; cafodd alwadau yn ôl yn Academi Celfyddydau Theatr Mountview, Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl, GSA Conservatoire, ac Ysgol Actio Bryste.
Dan Paterson: cafodd ei dderbyn yn Leeds Conservatoire; cafodd ei alw yn ôl yn Academi Celfyddydau Theatr Mountview.
Jordan White: cafodd ei dderbyn yn Drama Studio London.
Achredir cwrs Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio gan UAL: Prifysgol y Celfyddydau, Llundain a gall myfyrwyr ar y cwrs ddewis dilyn llwybr actio neu theatr gerdd. Bwriedir y cwrs ar gyfer myfyrwyr 18+ oed sydd am astudio mewn ysgolion drama arbenigol neu’r brifysgol.