Mae 11 myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd amodol i astudio naill ai ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2026.
Mae’r myfyrwyr i gyd yn dilyn rhaglen Anrhydeddau CGA y Coleg ar Gampws Gorseinon, sydd â’r nod o roi’r paratoadau gorau posibl i fyfyrwyr sy’n anelu at symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group. Y myfyrwyr yw:
Alex Blake (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - cafodd gynnig lle yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt i astudio Hanes
Caitlin Scotti (gynt o Ysgol Bro Dinefwr) - cafodd gynnig lle yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt i astudio Economi Tir
Catrin Chowdhury (gynt o Ysgol Gyfun Gŵyr) - cafodd gynnig lle yng Ngholeg Santes Catrin, Rhydychen i astudio Ieithoedd Modern
Cleo Jones (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) - cafodd gynnig lle yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt i astudio Addysg
Cosima Wohlschegel (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - cafodd gynnig lle yn Y Coleg Newydd, Rhydychen i astudio Biology
Eve Barron (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - cafodd gynnig lle yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt i astudio Meddygaeth
Harrison Williams (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) - cafodd gynnig lle yng Ngholeg Brasenose, Rhydychen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth
Kaitlin O'Mahoney (gynt o Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Sant Joseff) - cafodd gynnig lle yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt i astudio Economi Tir
Nisha Wattananavin (myfyriwr Rhyngwladol) - cafodd gynnig lle yn Neuadd y Drindod, Caergrawnt i astudio Economi Tir
Poppy Harry-Thomas (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - cafodd gynnig lle yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt i astudio Ieithoedd Modern a Chanoloesol
Samantha Nowak (gynt o Ysgol Tre-gŵyr) - cafodd gynnig lle yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen i astudio Tsieinëeg.
“Mae hyn yn newyddion gwych a hoffwn longyfarch pob un o’r myfyrwyr, eu darlithwyr a thîm Anrhydeddau CGA,” meddai’r Pennaeth, Paul Kift. “Mae’n wych gweld bod cynifer o ysgolion cyfun gwahanol yn cael eu cynrychioli ar y rhestr hon a dwi wrth fy modd bod yr ystod o bynciau y mae’r myfyrwyr hyn yn mynd ymlaen i’w hastudio mor amrywiol – o fioleg a Tsieinëeg i economi tir ac addysg – mae hyn wir yn cynrychioli ystod amrywiol o lwybrau gyrfa ar gyfer y dyfodol. Dwi hefyd yn falch bod un o’n myfyrwyr Rhyngwladol wedi cael cynnig lle yng Nghaergrawnt.
“Y cyfan sydd ar ôl i mi ei wneud nawr yw dymuno pob lwc i bob un ohonynt ar gyfer eu canlyniadau arholiadau ym mis Awst.”
“Mae gennym hanes cryf o gael myfyrwyr i mewn i’r prifysgolion gorau ac felly mae’r llwyddiant hwn yn dangos cysondeb a chryfder ein darpariaeth ac ymroddiad ein staff cymorth ac addysgu,” ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol, Kelly Fountain. “Mae hyn yn rhywbeth y dylen ni i gyd fod yn hynod falch ohono.”
Yn 2025, enwyd Coleg Gŵyr Abertawe gan The Daily Mail fel un o’r ysgolion gwladol / colegau gorau yn y DU am gael pobl ifanc i mewn i Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen, gan ymddangos ar restr o’r 30 sefydliad addysgol gorau sy’n pontio’r bwlch i fyfyrwyr ysgolion gwladol fynd i brifysgolion elit.
Mae Rhaglen Anrhydeddau CGA y Coleg yn ymgorffori sesiynau tiwtorial wythnosol, cyfweliadau paratoi gyda chyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesiadau mewn pynciau perthnasol.
Mae dysgwyr sydd am wneud cais i astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth neu Filfeddygaeth yn mynychu sesiynau ychwanegol sy’n eu paratoi ar gyfer profion derbyn a chyfweliadau cystadleuol. Maen nhw hefyd yn cael cyfleoedd i glywed gan siaradwyr gwadd o amrywiaeth o gwmnïau a chyrsiau prifysgol.
Mae’r Coleg hefyd wedi integreiddio Academi Seren, menter Llywodraeth Cymru sy’n helpu dysgwyr disgleiriaf Cymru i gyrraedd eu potensial academaidd llawn yng Nghymru, y DU, a thramor, yn ei raglen Anrhydeddau CGA. Ar gael i bob dysgwr sy’n academaidd alluog ym Mlwyddyn 12 a Blwyddyn 13, mae Academi Seren yn cynnig sesiynau rhyngweithiol a phrofiadau astudio unigryw i gefnogi dysgu parhaus ac arweiniad arbenigol i helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am wneud cais i brifysgolion blaenllaw.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd yn falch o fod yn rhan o fenter Step Up, wedi’i gydlynu gan y Coleg Newydd, Rhydychen. Mae’r tîm Step Up yn cynorthwyo myfyrwyr trwy fynd i Gampws Gorseinon i drafod y broses o wneud cais a datganiad personol a rhoi cyfleoedd i’n dysgwyr ymweld â Rhydychen.