I’r rhai sy’n derbyn eu canlyniadau ar ddiwrnodau penodedig, cofia gadw llygad allan am wahoddiad gennym ni w/d dydd Llun 4 Awst. Bydd hwn yn rhoi manylion sut i gasglu dy ganlyniadau.
Y diwrnodau penodedig yw:
Safon Uwch, Galwedigaethol Lefel 3 (fel BTEC, OCR, UAL, NCFE) a Bagloriaeth Cymru
Dydd Iau 14 Awst 2025 (o 9.15am)
TGAU a Galwedigaethol Lefel 2
Dydd Iau 21 Awst 2025 (o 9.15am)
Bydd canlyniadau ar gael hefyd drwy’r e-CDU ar y ddau ddiwrnod.
Er mwyn casglu dy ganlyniadau, rhaid i ti ddod â Cherdyn Adnabod (ID) gyda ti sy'n cynnwys dy enw.
Os na alli di gasglu dy ganlyniadau’n bersonol, bydd angen i ti roi caniatâd ysgrifenedig (nid neges destun nac e-bost) fel y gall rhywun arall eu casglu ar dy ran. Dylai’r person hwnnw ddod â cherdyn adnabod gydag ef/hi hefyd. Ni allwn roi canlyniadau dros y ffôn nac ar e-bost o dan unrhyw amgylchiadau.
Bydd unrhyw ddatganiad o ganlyniadau sydd heb ei gasglu yn cael ei bostio i dy gyfeiriad cartref ar brynhawn y diwrnod canlyniadau perthnasol.
Sylwa: Os wyt ti’n casglu dy ganlyniadau o Gampws Gorseinon, cofia fod gwaith ailwampio yn cael ei gynnal yno, sy’n golygu y bydd angen i ti barcio ym maes parcio Bloc A/Bloc y Celfyddydau. Rydyn ni’n buddsoddi £20.6 miliwn yn y campws i wella cyfleusterau dysgu ac addysgu i bob myfyriwr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
Mae rhagor o ganllawiau i’w gweld ar y porth myfyrwyr.
***
Os nad oes diwrnod canlyniadau penodedig ar gyfer dy gymhwyster, bydd dy ganlyniadau’n ymddangos ar dy e-CDU pan fyddan nhw ar gael a byddi di’n derbyn dy dystysgrif gyda’r post (rydyn ni’n postio pob tystysgrif cymhwyster i dy gyfeiriad cartref.)
Wyt ti wedi newid dy gyfeiriad yn ddiweddar?
Os felly, e-bostia Enrolment@gcs.ac.uk cyn 11 Awst 2025 er mwyn diweddaru dy gofnodion.
***
Byddi di’n cael neges gan ein tîm Arholiadau cyn 14 Awst a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.