Yn ddiweddar, fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe groesawu dirprwyaeth o uwch ffigurau addysg o Ghana fel rhan o raglen gyfnewid arweinyddiaeth, datblygiad a gwybodaeth dros bedwar diwrnod. Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant technegol a galwedigaethol (TVET), ymgysylltu â chyflogwyr a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Fe wnaeth yr ymweliad daflu goleuni ar ymagwedd strategol y Coleg at arloesedd y cwricwlwm a phartneriaethau cyflogwyr ar draws sectorau allweddol gan gynnwys peirianneg, lletygarwch, adeiladu a sgiliau gwyrdd. Dysgodd y dirprwyon sut mae prosesau cyd-ddylunio cyflogwyr, lleoliadau diwydiant myfyrwyr a staff, a darpariaeth prentisiaethau i gyd yn cael eu hymgorffori i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu sgiliau sy’n ateb anghenion y gweithlu.
Un o nodweddion allweddol y rhaglen oedd ymweliadau â sefydliadau ym myd diwydiant fel TATA Steel, Hacer Developments a The Secret Beach Bar & Kitchen, ochr yn ochr ag ymweliad â Champws Gelli Aur yng Ngholeg Sir Gâr, lle bu’r dirprwyon yn archwilio’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ym maes sgiliau gwyrdd, cynaliadwyedd ac arloesedd amaethyddol.
Roedd y diwrnod olaf yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth ac arloesedd y cwricwlwm a oedd yn cynnwys Prosiect Chwilfrydedd y Coleg, cystadlaethau WorldSkills ac arddangosfa Menywod mewn STEM a gynlluniwyd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a thechnolegwyr benywaidd.
“Roedden ni’n falch iawn o groesawu ein cydweithwyr o Ghana i Goleg Gŵyr Abertawe ac i rannu rhai o’n dulliau o weithio’n agos gyda chyflogwyr i helpu i lunio a gwella ein cwricwlwm,” meddai Nikki Neale, Dirprwy Bennaeth Cwricwlwm, Ansawdd, Dysgu ac Addysgu.
“Roedd yr ymweliad yn gyfle gwerthfawr i arddangos y partneriaethau cryf sy’n sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiadau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.
“Roedd ein gwesteion yn gallu gweld effaith ein prosiect Merched mewn STEM, lle roedd mwy na 70 o ferched ifanc o ysgolion lleol wedi cymryd rhan mewn gweithdai ysbrydoledig mewn meysydd gan gynnwys peirianneg a seiberddiogelwch. Wedi’u cyflwyno gan staff y Coleg ochr yn ochr â chyflogwyr partner, mae’r gweithgareddau hyn yn annog ac yn grymuso’r genhedlaeth nesaf o fenywod i ystyried gyrfaoedd cyffrous mewn diwydiannau cysylltiedig â STEM.
“Mae gwir werth partneriaethau rhyngwladol fel hyn yn deillio o’r ddeialog gyfoethog maen nhw’n ei chreu. Fel addysgwyr, rydyn ni’n sylweddoli'n gyflym ein bod ni’n rhannu llawer o’r un nodau, uchelgeisiau a heriau, ac mae llawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd. Yn sicr, nid cyfnewid unffordd yw hwn; mae pawb yn dysgu ohono ac yn elwa arno.
“Mae’r ymweliad hwn wedi helpu i gryfhau a diogelu cysylltiadau rhwng ein sefydliadau, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at archwilio cyfleoedd cydweithio yn y dyfodol, gan gynnwys ymweliadau cyfnewid staff a dysgwyr, a datblygu prosiectau ar y cyd. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r Cyngor Prydeinig am eu cefnogaeth a’u cyllid, sydd wedi gwneud y bartneriaeth werthfawr hon yn bosibl.” “Fe wnaeth yr ymweliad â Choleg Gŵyr Abertawe a’r ymweliadau ymgysylltu â chyflogwyr gynnig mewnwelediadau gwerthfawr ar sut y gall partneriaethau cryf rhwng darparwyr addysg a
diwydiant wella datblygiad sgiliau, cyflogadwyedd a thwf economaidd rhanbarthol,” meddai Samuel Gyedu-Brefo, Rheolwr Prosiect yng Nghyngor Prydeinig Ghana.
"Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, un o’r pethau allweddol dysgon ni oedd pwysigrwydd dylunio cwricwlwm dan arweiniad cyflogwyr, darpariaeth prentisiaethau a rhaglenni datblygu’r gweithlu sy’n sicrhau bod hyfforddiant yn parhau i ateb anghenion y diwydiant presennol a’r dyfodol. Fe wnaeth yr ymweliad â Tata Steel dynnu sylw at werth cydweithredu agos rhwng byd diwydiant a byd addysg wrth ddatblygu sgiliau technegol, cefnogi arloesedd, darparu lleoliadau gwaith a chreu llwybrau dilyniant clir at gyflogaeth i ddysgwyr. Fe wnaeth y model ymgysylltu â chyflogwyr ddangos sut y gall partneriaid diwydiant gyfrannu’n weithredol at wella’r cwricwlwm, ymchwil a datblygu talent.
“Yng Ngholeg Sir Gâr, mae’r ffocws ar addysg alwedigaethol, prentisiaethau a hyfforddiant wedi’i deilwra gan gyflogwyr yn atgyfnerthu pwysigrwydd cyfleoedd dysgu hyblyg, seiliedig ar alw sy’n ateb gofynion y gweithlu lleol a rhanbarthol. Yn gyffredinol, roedd yr ymweliadau yn taflu goleuni ar arferion effeithiol o ran ymgysylltu â chyflogwyr, dysgu seiliedig ar waith a chynllunio sgiliau. Roedden nhw’n dangos sut y gall cydweithio rhwng colegau a chyflogwyr greu gweithluoedd medrus iawn, gwella canlyniadau dysgwyr a chefnogi datblygiad economaidd.”