Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gael dathlu Wythnos Addysg Oedolion eleni gydag ystod eang o weithdai creadigol yn cael eu cynnig yng Nghampws Llwyn y Bryn.
Bydd y gweithdai’n amrywio o arlunio a ffotograffiaeth i argraffu sgrîn a darlunio ffasiwn. Bydd y gweithdai’n addas ar gyfer dechreuwyr neu’r rhai sydd â phrofiad cyfyngedig o gelf a dylunio.
Mae pob gweithdy am ddim ac yn agored i’r rhai sydd yn 18+, a byddant yn cael eu cynnal yng Nghampws Llwyn y Bryn, 77 Walter Road, Uplands, SA1 4QA.
Darllen mwy