Ymarfer Celf yn Gymraeg
Trosolwg
Archwiliwch eich creadigrwydd a datblygu’ch sgiliau iaith Gymraeg ar y cwrs celf amlddisgyblaethol hwn. Cewch gyfle i roi cynnig ar gyfryngau a phrosesau amrywiol, gan ehangu eich geirfa a magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
Yn gyfle i roi cynnig ar dechnegau creadigol newydd fel collage, gwneud llyfrau, gwneud printiau, wrth ymarfer dy Gymraeg a dod i nabod pobl newydd sydd hefyd yn dysgu Cymraeg.
Mae’r dosbarthiadau sy’n dechrau dydd Mawrth 4 Tachwedd 2025 wedi’u dylunio ar gyfer siaradwyr Cymraeg Canolradd, Uwch, a Rhugl sydd am gryfhau eu sgiliau llafar a mwynhau rhyngweithio’n gymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r dosbarthiadau sy’n dechrau dydd Mawrth 24 Chwefror 2026 wedi’u teilwra ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad a Sylfaen, gan ddarparu amgylchedd cefnogol i fagu hyder a datblygu sgiliau Cymraeg wrth ymgysylltu’n greadigol trwy gelf.
Gwybodaeth allweddol
- Y gallu i ddeall Cymraeg
- Dim profiad blaenorol o gelf.
Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i gyrsiau nos eraill cysylltiedig â chelf/crefft a addysgir yn ddwyieithog, neu gofrestru ar gyrsiau Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.