Skip to main content

Asesu Anghenion Dysgu

Er mwyn deall dy anghenion, byddwn ni’n dechrau gydag Asesiad Cychwynnol. Mae hyn yn drafodaeth 30 munud i ni ddysgu rhagor amdanat. Bydd yr wybodaeth a gasglwn yn ein helpu i nodi’r cymorth iawn i ti, neu a oes angen prawf sgrinio pellach arnat.

Sgrinio

Mae prawf sgrinio yn cynnwys tasgau byr sy’n rhoi proffil i ni o dy gryfderau ac unrhyw heriau. Nid yw’n asesiad ffurfiol nac yn ddiagnosis. Sylwa: bydd rhaid i ti fod wedi cael prawf llygad o fewn y ddwy flynedd cyn y prawf sgrinio.

Gallai sgrinio arwain at gynnig o:

  • Trefniadau mynediad arholiad
  • Addysgu arbenigol gan ddarlithydd ADY
  • Offer arbenigol
  • Darpariaeth technoleg gynorthwyol
  • Cyfeiriad at weithdy ADY
  • Cyfeiriad at wasanaethau cymorth eraill y Coleg
  • Cyfeiriad at asiantaethau allanol
  • Arweiniad ar y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl
  • Cyngor ar Fynediad at Waith.

Trefniadau mynediad arholiad

Os wyt ti’n ddysgwr â Gwahaniaethau Dysgu Penodol, anghenion corfforol neu feddygol, gelli di wneud cais am Drefniadau Mynediad Arholiad. Mae’r trefniadau hyn yn rhoi mynediad cyfartal i ti at yr arholiad heb newid gofynion yr asesiad.

Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:

  • Amser ychwanegol
  • Defnyddio darllenydd
  • Defnyddio ysgrifennydd
  • Defnyddio prosesydd geiriau
  • Troshaenau neu bapur lliw
  • Ystafell lai neu ar wahân.

Os wyt ti wedi cael trefniadau mynediad arholiad yn y gorffennol, rho wybod i ni adeg cofrestru. Bydd angen i ti roi tystiolaeth o dy wahaniaeth dysgu neu dy angen meddygol i dy gydlynydd. Bydd e/hi yn cwrdd â ti yn y tymor cyntaf i roi’r trefniadau hyn ar waith.

Sylwa y bydd pob cais am drefniadau mynediad yn cael eu derbyn yn unol â chanllawiau’r bwrdd arholi. Y bwrdd arholi sydd â’r gair olaf.  

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnat, cysyllta â’r tîm ar learningsupport@gcs.ac.uk.